Fy ngwlad:
llun yn dangos arwydd pellteru 2 fedr

Costau iechyd meddwl cydymffurfio â’r cyfnod clo yn dal i gael eu teimlo, dengys ymchwil

Po fwyaf llym y gwnaeth pobl gydymffurfio â chyfyngiadau Covid yn ystod y pandemig, y gwaethaf yw eu hiechyd meddwl heddiw, yn ôl ymchwil newydd.

Yn naturiol, roedd llawer o ffocws ar ledaenu negeseuon iechyd y cyhoedd pan ddaeth Covid i’r amlwg gyntaf, er mwyn newid ymddygiad pobl. Yn yr un modd, trwy gydol y pandemig, cynlluniwyd ymgyrchoedd ar ffurf negeseuon i sicrhau bod pobl yn parhau i ddilyn y rheolau. Ond nid oedd unrhyw ymgyrch negeseuon wrth i ni ddod allan o'r pandemig i helpu pawb i drosglwyddo'n ddiogel i normalrwydd. Heb hyn, mae rhai mathau o bersonoliaeth wedi cadw ymddygiad atal heintiau a gorbryder sy’n tanseilio eu lles meddyliol.
Dr Marley Willegers,  Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elît ym Mhrifysgol Bangor

Roedd yr astudiaeth yn cynnwys dros 1700 o bobl, a gafodd eu recriwtio drwy Doeth am Iechyd, y gofynnwyd iddynt yn gynharach eleni i ateb cwestiynau am eu nodweddion personoliaeth a’u hagweddau at Covid ac ymddygiad yn ystod y cyfnod clo cyntaf (Mawrth-Medi 2020). Holodd yr ymchwilwyr hefyd 230 o bobl a oedd yn ffrindiau neu'n deulu i'r rhai a gymerodd ran yn yr astudiaeth, i groeswirio atgofion ymatebwyr o'u hymddygiad gyda phobl eraill a oedd yn eu hadnabod yn dda.

Yn dilyn hyn, cysylltodd y tîm ag 850 o’r rhai a gymerodd ran, gan ofyn iddynt adrodd am eu lefelau llesiant, straen, gorbryder, iselder ac atal heintiau bob pythefnos dros gyfnod o dri mis rhwng Chwefror a Mai 2023.

Gwnaethant gategoreiddio pob person mewn perthynas â dau fath o nodweddion personoliaeth - y rhai sy'n canolbwyntio'n fwy ar yr hyn sy'n effeithio arnynt eu hunain (personoliaethau agentig) a'r rhai sy'n canolbwyntio'n fwy ar yr hyn sy'n effeithio ar bobl eraill (personoliaethau cymunedol). Yn gyffredinol, roedd y cyntaf yn llai tebygol o fod wedi cydymffurfio â rheolau Covid, ac eithrio lle roeddent yn teimlo dan fygythiad personol o haint. I’r gwrthwyneb, roedd personoliaethau cymunedol yn llai tebygol o wella eu cydymffurfiaeth â chyngor iechyd wrth i’r bygythiad o haint gynyddu, o bosibl oherwydd eu bod yn cymryd risgiau personol i helpu eraill.

Canfu’r ymchwilwyr, waeth beth fo’u personoliaeth, roedd lefelau uwch o gydymffurfio â rheolau Covid yn ystod y pandemig (Mawrth-Medi 2020) yn rhagfynegi lefelau llesiant presennol is (Chwefror-Mawrth 2023). Mewn geiriau eraill, po fwyaf o bobl a gydymffurfiodd â rheolau Covid yn ystod y pandemig, y gwaethaf yr oedd eu lles ar ôl hynny.  

Mae'n amlwg o'n hymchwil, os yw ymgyrchoedd hysbysebu'r llywodraeth am newid ymddygiad y cyhoedd, mae angen iddynt ystyried y ddau fath o bersonoliaeth. Mae angen i ymgyrchoedd amlygu’r costau personol a’r buddion sy’n gysylltiedig ac nid cyfrifoldeb pobl am eraill yn unig.
Dr Marley Willigers,  Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elît, Prifysgol Bangor

Un enghraifft y mae’r ymchwilwyr yn cyfeirio ati yw cyflwyno’r terfyn 20mya yng Nghymru. Mae’r ymgyrch bresennol i hysbysu’r cyhoedd am y newid i’r terfyn cyflymder, sy’n canolbwyntio’n bennaf ar y bywydau a allai gael eu hachub drwy yrru’n arafach, yn annhebygol o annog  personoliaethau mwy agentig i gydymffurfio. Byddai ymgyrch ehangach, sydd hefyd yn canolbwyntio ar gostau personol a manteision cydymffurfio â'r newid, yn targedu amrywiaeth ehangach o fathau o bersonoliaeth yn fwy effeithiol, meddai'r ymchwilwyr.

Mae’r adroddiad llawr ‘The effect of agency and communion on pandemic response and post-lockdown recovery’ gan Dr Marley Willegers, Dr Ross Roberts, Yr Athro Tim Woodman, a Dr Andrew Cooke wedi ei gyhoeddi gan Prifysgol Bangor ac ar gael trwy gysylltu gyda Dr Marley Willigers.