Image of Yr Wyddfa landscape

Cronfa Gymunedol Bangor yn cefnogi uwchgynhadledd cynaliadwyedd Yr Wyddfa

Cynhaliom astudiaeth gychwynnol i geisio nodi prif sbardunwyr ymddygiad taflu sbwriel. Gallem dybio mai mater o gymhelliant ydyw: does dim ots gan bobl, ond mewn gwirionedd un o’r ffactorau pwysicaf oedd nad oedd rhai ymwelwyr wir yn gwerthfawrogi'r hyn a ddisgwylid ganddynt yn y parc. Nid oeddent wedi cynllunio ymlaen llaw’n ddigonol at eu hymweliad, megis dod â bag gwastraff i fynd â’u sbwriel adref. Nod pennaf yr ymchwil yw canfod ffyrdd o greu ymdeimlad cryfach o gyfrifoldeb personol yn y parc cenedlaethol fel bod ymwelwyr yn gofalu amdanynt eu hunain ac eraill – heb adael ‘dim o’u hôl’ a hyd yn oed casglu sbwriel mae eraill wedi’i daflu.

Yr Athro John Parkinson

Arweiniodd y canfyddiadau at ddylunio astudiaeth newid ymddygiad, lle bu myfyrwyr-ymchwilwyr yn siarad â cherddwyr wrth odrau’r Wyddfa. Cafodd sgript ei datblygu’n ofalus i’r myfyrwyr ynglŷn ag ymddygiad. Y nod oedd hybu cymhelliant cynhenid a hyrwyddo gweithredoedd amgylcheddol gyfrifol ymhlith cerddwyr ar Yr Wyddfa. Roedd y canlyniadau cynnar yn addawol iawn, ac roedd tystiolaeth yn awgrymu y bu newid cadarnhaol mewn agweddau ac ymddygiad. Mae'r ymchwil llawn wrthi’n cael ei baratoi i'w gyhoeddi'n academaidd.

Penllanw’r holl waith oedd uwchgynhadledd gyntaf COPA1 Eryri ar Yr Wyddfa lle bu timau o blant o’r ysgolion uwchradd lleol yn datblygu projectau i fynd i’r afael â phlastigau a gwastraff plastig. Cafodd y digwyddiad gefnogaeth gan unigolion o broffil uchel a ffigurau cymunedol, gan gynnwys y gantores a bardd y plant, Casi Wyn, Owen Derbyshire, Pennaeth Cadw Cymru’n Daclus, a Liz Saville Roberts, AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd.

Gyda chefnogaeth y Loteri Genedlaethol a Chronfa Gymunedol Prifysgol Bangor, rhoddodd y digwyddiad lwyfan i ddisgyblion ysgol weithio ochr yn ochr â hwyluswyr arbenigol, i fireinio eu syniadau a’u cyflwyno gerbron panel o feirniaid. Ar ôl y digwyddiad, aethant i gopa’r Wyddfa ar y Trên Bach enwog.

Dywedodd yr Athro Christian Dunn, Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor, “Dim ond megis dechrau mae llwyddiant uwchgynhadledd COPA1 Eryri. Mae’r gwaith yn parhau ac mae’n cynrychioli’r ffordd y mae Prifysgol Bangor, fel un o’r 100 prifysgol orau yn y byd am gynaliadwyedd, yn cael effaith yn y gymuned.”

Dywedodd Alec Young, Swyddog Yr Wyddfa Ddi-blastig, “Rydym yn gweld momentwm gwirioneddol yn ymdrechion y gymuned i leihau gwastraff plastig, ond dim ond megis dechrau y mae. Trwy addysg, ymchwil a chydweithio, rydym yn gosod llwyfan i newid parhaol."

Ein cyrsiau seicoleg

Darllen mwy am ein cyrsiau seicoleg: