MAE SICRHAU BOD BWLIO’N BRYDER I BAWB YN LLEIHAU CYFRADDAU BWLIO MEWN YSGOLION CYNRADD CYMRAEG A SAESNEG – YMCHWIL NEWYDD
Mae'r erthygl hon gan Judith Mary Hutchings sy'n Athro Seicoleg Glinigol a Chyfarwyddwr Canolfan Ymyrraeth Gynnar ar sail Tystiolaeth ym Mhrifysgol Bangor wedi ei ail-chyhoeddi o The Conversation o dan drwydded Creative Commons. Darllenwch yr erthygl wreiddiol fan hyn.
Mae’r erthygl hon gan Judy Hutchings, sef Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymyrraeth Gynnar ar Sail Tystiolaeth ac Athro Seicoleg Glinigol ym Mhrifysgol Bangor, yn cael ei hailgyhoeddi o The Conversation o dan drwydded Creative Commons. Darllenwch yr erthygl wreiddiol yma.
Mae bwlio’n rhywbeth cyffredin mewn ysgolion, ac mae iddo ganlyniadau a all bara trwy blentyndod ac ymlaen i fywydau oedolion. Mae ymchwil wedi canfod bod plant sy'n cael eu bwlio'n aml yn fwy tebygol o hunan-niweidio, ac mae cael eich bwlio yn ystod plentyndod wedi'i gysylltu â phrofi risg uwch o iselder fel oedolyn.
Mae modd atal bwlio, ond mae angen mwy o help ar ysgolion i fynd i’r afael â’r broblem. Er ei fod yn ofynnol i ysgolion yng Nghymru a Lloegr fod â pholisi gwrth-fwlio ar waith, mae cyfraddau’n parhau i fod yn uchel. Canfu adroddiad yn 2023 gan yr elusen The Anti-Bullying Alliance fod bron i chwarter o dros 65,000 o blant a holwyd yn dweud eu bod wedi cael eu bwlio’n aml dros yr wythnosau diwethaf.
Yn gyffredinol, mae polisïau ysgolion yn ceisio mynd i’r afael â’r mater o sut i ddelio â bwlio pan fydd yn digwydd. Fodd bynnag, mae tystiolaeth i awgrymu mai ymagwedd sy’n cwmpasu’r ysgol gyfan i atal bwlio, yn ogystal â strategaethau clir i fynd i’r afael â bwlio a gadarnhawyd, yw’r ymagwedd fwyaf effeithiol.
Mae ein hymchwil wedi profi effeithiolrwydd un o'r dulliau ysgol gyfan hyn, sef rhaglen Kiva. Roedd hon yn astudiaeth a oedd yn cynnwys dros 11,000 o blant a chanfu gostyngiad o 13% yn y cyfraddau bwlio a adroddwyd.
Cafodd y rhaglen Kiusaamisen Vastaan neu’r rhaglen “Kiva” ei datblygu gan ymchwilwyr yn y Ffindir gyda chyllid gan y llywodraeth. Mae’r rhaglen Kiva wedi'i hadeiladu ar y model pensaernïaeth gymdeithasol o fwlio, sy'n pwysleisio rolau arwyddocaol gwyliedyddion wrth gefnogi neu sefyll yn erbyn bwlio.
Ymddygiad Gwyliedydd
Mae hyn yn mynd y tu hwnt i weld bwlio fel rhywbeth sy'n digwydd rhwng y bwli a'i ddioddefwr yn unig, i gynnwys hefyd yr unigolion hynny sy'n helpu’r bwli, cynulleidfaoedd sy'n atgyfnerthu'r bwlio, arsylwyr distaw sy'n ymddwyn fel pe na bai'n ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd, a'r unigolion hynny sy'n helpu dioddefwyr. Nod y rhaglen yw newid ymddygiad gwyliedyddion tuag at helpu dioddefwyr, ac atal bwlio rhag bod yn ffordd i fwlis ennill statws cymdeithasol.
Dangosodd astudiaeth ymchwil fawr o dros 8,000 o fyfyrwyr yn y Ffindir ostyngiad sylweddol mewn bwlio ac erledigaeth ymhlith myfyrwyr rhwng 7 ac 11 oed, gan gynnwys llai o seiberfwlio. Roedd hefyd yn dangos cyfraddau is o orbryder ac iselder ysbryd. Ers 2009, mae'r rhaglen wedi cael ei chyflwyno'n genedlaethol ar draws y Ffindir.
Mae ein hymchwil wedi canolbwyntio ar archwilio effeithiolrwydd rhaglen Kiva yn y Deyrnas Unedig. Cyflwynwyd Kiva yng Nghymru yn 2013; mae ein hastudiaeth, a gynhaliwyd yn 2021 a 2022 gyda 118 o ysgolion cynradd ledled Cymru a Lloegr, yn werthusiad trylwyr o’i heffeithiolrwydd yng nghyd-destun system ysgolion y Deyrnas Unedig.
Aethom ati i gymharu dull Kiva ag arferion presennol ysgolion i fynd i'r afael â bwlio. Neilltuwyd ysgolion yng Nghymru, Birmingham, Swydd Rydychen a Dyfnaint ar hap i gyflwyno’r rhaglen Kiva neu i barhau â'u harferion arferol.
Mewn ysgolion a gymerodd ran yn y treial Kiva, cafodd y plant 20 o wersi 45 munud o hyd yr un, a oedd yn dilyn y dull hwn trwy gydol y flwyddyn ysgol. Roedd y gwersi hyn yn cynnwys cyflwyniadau, gweithgarwch chwarae rôl a gwaith grŵp. Roedd y gwersi hyn yn mynd i’r afael â sut i wneud ysgol yn lle hapus, a sut i nodi a gwrthsefyll gwahanol fathau o fwlio. Cawsant hefyd fynediad at gemau addysgol ar-lein i'w chwarae yn yr ysgol a gartref.
Cafodd aelodau staff eu hyfforddi ar agweddau megis strategaethau wedi'u sgriptio i fynd i'r afael ag achosion o fwlio. Mae’r rhain yn cynnwys casglu gwybodaeth gan y dioddefwr, ymgysylltu â’r bwli neu’r bwlis i’w hannog i ymrwymo i gefnogi’r plentyn sy’n cael ei fwlio mewn rhyw ffordd (gan ofyn am gyfaddefiad o euogrwydd neu ddim) a gwaith gan athro dosbarth y plentyn i ofyn i blant nad oedd wedi cymryd rhan yn y bwlio i gefnogi’r dioddefwr. Caiff y strategaethau a'r penderfyniadau hyn eu hadolygu ar ôl pythefnos.
Cyflwynwyd y rhaglen Kiva i blant rhwng 7 ac 11 oed, ond mae'n cynnwys elfennau sy'n ymgorffori'r ysgol gyfan. Roedd y rhain yn cynnwys posteri ar y waliau, staff yn gwisgo tabardau amser egwyl i atgoffa disgyblion mai ysgol Kiva yw hon, ac adnoddau i rieni.
Ar ôl blwyddyn, gwelwyd gostyngiad o 13% yn yr erledigaeth a adroddwyd gan y disgyblion ar y treial Kiva, o gymharu â'r unigolion mewn ysgolion a oedd yn dilyn eu polisïau arferol. Dangosodd y treial hefyd fod plant yn ysgolion Kiva wedi adrodd lefelau uwch o empathi, a llai o broblemau ymhlith cyfoedion. Roedd y dull yr un mor effeithiol ar draws ysgolion cymdeithasol-economaidd amrywiol, ac mewn ysgolion sy’n amrywio o ran maint, o ysgolion bach gwledig i ysgolion trefol mawr.
Dengys ein canlyniadau y gall defnyddio rhaglen Kiva gael yr un effaith gadarnhaol yn y Deyrnas Unedig ag y mae wedi’i chael yn y Ffindir, a bod y dull gweithredu wedi’i brofi i fod yn ffordd effeithiol i ysgolion leihau bwlio a goblygiadau niweidiol bwlio.