Gall gwersi a ddysgir o'r byd chwaraeon helpu cwmnïau i greu awyrgylch sy’n cael y gorau o bawb ac sy'n cynyddu'r siawns o lwyddo. Mae llawer i’w ddweud am ddarparu eglurder ynghylch diwylliant, swyddogaethau a chyfrifoldebau, amcanion a diben tîm neu sefydliad. Dyma'r pethau sy'n dod ag undod, yn meithrin cydweithio ac yn annog pobl i fod eisiau llwyddo gyda'i gilydd.
Dyna pam fu i’r cwmni cyflenwi project Stellarmann geisio cyngor Yr Athro Dave Richardson, Pennaeth yr Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor ar gyfer eu papur gwyn diweddaraf yn tynnu sylw at y prosesau sydd ar waith.
RHANNU DIWYLLIANT
Mae’r Athro Richardson yn awdurdod ac yn gynghorydd blaenllaw mewn diwylliant sefydliadol proffesiynol, gyda phrofiad o weithio gyda chwaraewyr dawnus yng nghlybiau’r Uwch Gynghrair. Mae'n tynnu ar y profiad hwn i roi enghreifftiau i weithwyr proffesiynol ar gyfer byd busnes.
Mae llwyddiant tîm yn gofyn am fwy na phobl ddawnus. Mae nodweddion tîm buddugol hefyd yn cynnwys trefniadaeth dda, diwylliant cydlynol ac arweinyddiaeth gref.
Mae’r Athro Dave Richardson yn gweld tebygrwydd rhwng yr asio diwylliannol sydd ei angen wrth recriwtio tîm ar gyfer project a sut mae timau Uwch Gynghrair Lloegr yn defnyddio’r system fenthyg.
Meddai:
“Mae asio diwylliannol yn allweddol. Gallwch weld y bwriad strategol yn y ffordd y mae clybiau'r Uwch Gynghrair yn gosod chwaraewyr. Maen nhw’n ceisio dod o hyd i’r amgylchedd iawn lle mae’r chwaraewr, yr hyfforddwr a’r arddull chwarae i gyd yn cyd-fynd.”
MAETHU YSBRYD TÎM
O ran adeiladu a chefnogi'r tîm, dywed Dave Richardson,
“Mae unrhyw un sy'n mynd i amgylchedd newydd eisiau deall y bobl y byddan nhw’n gweithio gyda nhw. Byddant yn treulio amser yn y sefydliad ac yn asio gyda’r staff.”
“I bêl-droediwr ifanc o’r Uwch Gynghrair sy’n mynd i glwb cynghrair is mae hyn yn golygu treulio’r amser i ddod i adnabod ei gyd-chwaraewyr newydd, treulio amser yn y ffreutur ac yn y gampfa – gan ddysgu iaith y staff hyfforddi, a sylwi ar, a deall, naws eu hamgylchedd newydd a’r hierarchaeth ffurfiol ac anffurfiol.”