Cafodd ymchwil o Brifysgol Bangor yn profi effeithiolrwydd dulliau byrfyfyr i leihau straen oerfel ymysg bodau dynol ei gynnwys yn adroddiad diweddaraf y Gymdeithas Ffisiolegol ar Newid yn yr Hinsawdd ac Iechyd ar gyfer 29ain Cynhadledd y Pleidiau (COP) i Gonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd (COP29), a gynhaliwyd yn Baku, Gweriniaeth Azerbaijan.
Dywedodd yr Athro Sam Oliver, Adran Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer, a Chyfarwyddwr y Sefydliad Ffisioleg Ddynol Gymhwysol ym Mhrifysgol Bangor:
“Rydym wrth ein bodd bod ein gwaith wedi'i gynnwys yn adroddiad diweddaraf y Gymdeithas Ffisiolegol ar y Newid yn yr Hinsawdd ac Iechyd. Gobeithiwn y bydd amlygiad ychwanegol y gwaith yn helpu i hysbysu a pharatoi mwy o bobl a sefydliadau i leihau marwolaethau sy'n gysylltiedig ag aramlygiad i oerfel.”

Canfu ymchwil y tîm fod lapio pobl mewn pilen adeiladau, sef haen denau a ddefnyddir yn aml wrth adeiladu tai, yr un mor effeithiol â blanced ffoil wrth leihau straen oerfel, sy’n strategaeth a ddefnyddir yn gyffredin i leihau straen oerfel ac atal hypothermia. Mewn canfyddiadau eraill, roedd ychwanegu tair potel dŵr poeth 1 litr, wedi'u byrfyfyrio o boteli Nalgene, rhwymau a bagiau sych, yn gwneud i bobl deimlo’n gynhesach, ond nid oedd hyn yn newid ymatebion thermol y corff.
Dewiswyd pilen adeiladu a photeli dŵr poeth oherwydd gellir eu haddasu'n fyrfyfyr mewn amgylcheddau sy’n brin o adnoddau, er enghraifft, eu hachub o adeiladau a ddinistriwyd ar ôl trychinebau naturiol ac yn ystod rhyfel.
Bydd canfyddiadau’r ymchwil hwn yn helpu i wella hyfforddiant meddygol i bobl sy’n gweithio mewn sefyllfaoedd brys ac anghysbell, gyda gwersi a ddysgwyd o’r labordy’n llywio hyfforddiant meddygol gofal maes estynedig cyn-ysbyty a ddarperir gan Remote Area Risk International a’r Institute for Remote Area Risk Management and Medicine.
Daeth yr ymchwil i fodolaeth ar ôl i’r Athro Oliver o'r Sefydliad Ffisioleg Ddynol Gymhwysol (https://www.bangor.ac.uk/iahp) gydweithio â’r cwmni hyfforddiant meddygol Remote Area Risk International a’r Institute for Remote Area Risk Management and Medicine (https://www.r2rinternational.com/iraram). Nod cyffredinol y gwaith yw gwella gofal meddygol mewn sefyllfaoedd brys sy'n digwydd mewn ardaloedd anghysbell yn yr awyr agored, megis alldeithiau, gweithrediadau milwrol, a thrychinebau dyngarol.
Cafodd y gwaith ei gynnal gan Grant Arloesedd ac Effaith Prifysgol Bangor, a ariennir gan Gronfa Arloesedd Ymchwil Cymru.
Mae Argymhellion Allweddol y Gymdeithas Ffisiolegol ar y Newid yn yr Hinsawdd ac Iechyd ar gyfer adroddiad COP29 i’w weld wrth glicio'r ddolen yma.