Egwyddorion ac Ymarfer Rhaglennu gan ddefnyddio Python
Ar y cwrs hwn, byddwch yn dysgu am y cysyniadau a'r arferion gorau sy'n ymwneud â rhaglennu sylfaenol gan ddefnyddio Python. Bydd y cwrs yn cynnwys elfennau hyfforddedig ac elfennau ymarferol.
Mae Python yn iaith raglennu bwerus a hyblyg sydd wedi'i chynllunio ar gyfer rhwyddineb ei defnydd a chynhyrchedd gwell. Ar hyn o bryd mae'n un o'r ieithoedd rhaglennu sy'n tyfu gyflymaf yn y byd ac fe'i defnyddir yn aml ar gyfer dysgu peirianyddol a dadansoddi data.
Bydd y sgiliau a gewch chi ar y cwrs hwn yn eich galluogi i ysgrifennu cod defnyddiol, cywir, cynaliadwy ac effeithlon. Gellir cymhwyso llawer o'r egwyddorion rhaglennu i ieithoedd rhaglenni eraill fel R a MATLAB.
Rhagofyniad: Does dim angen dim gwybodaeth flaenorol am raglennu. Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer amrywiaeth fawr o ymgesiwyr.