Egwyddorion cyfweld ansoddol: dadansoddi data
Bydd y sesiwn yn ystyried dulliau a ddefnyddir yn eang i ddadansoddi data o gyfweliadau ansoddol. Un nod yw rhoi hyfforddiant ymarferol ynglŷn â datblygu dadansoddiad ansoddol o ddata o'r fath (er enghraifft, nodi themâu. Ail nod y sesiwn yw ystyried sut y gall yr ymchwilydd ansoddol sicrhau bod y dadansoddiad neu’r 'disgrifiad' yn un 'digonol', h.y. llwyddodd i gyfleu safbwynt goddrychol y rhai yr ymchwilir iddynt yn gywir. Bydd yn canolbwyntio'n bennaf ar ddulliau lled-strwythuredig a thrylwyr o gyfweld ac mae wedi'i anelu at ymchwilwyr ôl-radd sy'n bwriadu cynnal cyfweliadau ansoddol a'r rhai sydd â diddordeb datblygu sgiliau cyfweld ansoddol.
Bydd cyfle hefyd i gyfranogwyr weithio gyda enghreifftiau o ganllawiau testun a thrawsgrifiadau cyfweliad a’u trafod. Mae'r sesiwn yn dilyn y gweithdy blaenorol ynglŷn â chasglu data ansoddol ac mae’n ategu'r hyfforddiant mewn meddalwedd NVIVO. Mae'n llai addas i'r rhai sy'n dymuno datblygu sgiliau ansoddol uwch neu'r rhai sy'n dymuno gwybod mwy am ffurfiau naratif anstrwythuredig o gyfweld.