Ymchwil Dulliau Cymysg – egwyddorion, casglu data a dadansoddi (In-person)
Bydd y gweithdy hwn yn cynnig cyfleoedd ymarferol uwch gyda materion sy’n ymwneud ag Ymchwil Dulliau Cymysg (MMR). Bydd yn trafod y patrymau sy’n sail i Ymchwil Dulliau Cymysg, ac yn nodi rhai o’r egwyddorion i’w hystyried – cynllunio ymchwil, triongli, dadansoddiadau – ac yn rhoi cyfle i ddefnyddio cymysgedd o ddata meintiol ac ansoddol i archwilio manteision a chyfyngiadau Ymchwil Dulliau Cymysg. Bydd ffocws ar ddadansoddi a chyflwyno Ymchwil Dulliau Cymysg.
Mae'r gweithdy wedi'i gynllunio ar gyfer myfyrwyr PhD sy'n gweithio gyda ffynonellau data cymysg, yn ogystal â'r rhai sy'n ystyried cymysgu ffynonellau data. Caiff y drafodaeth ynghylch dadansoddiadau data, triongli, ac yn y blaen ei darlunio trwy ddefnyddio data o gyfweliadau ac arolygon yn ogystal â data cyd-destunol.