Bwrsariaeth ar gyfer Cyfle Mentora Iaith a Diwylliant
**Please note, it is an opportunity being advertised by an external institution to the university.
Byddwch yn Fentor Iaith & Diwylliant ar gyfer 2025-26!
Ydych chi’n dwlu ar bob peth sy’n ymwneud â ieithoedd a diwylliant?! Os felly, dewch i ymuno â Mentora ITM!
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ac i wneud cais erbyn 11 o Ebrill : https://sway.cloud.microsoft/JtKLQABlfsB2N4oj?ref=Link
Mae Mentora ITM yn recriwtio a hyfforddi myfyrwyr prifysgol o arbenigedd pynciol amrywiol sydd â diddordeb a brwdfrydedd am ieithoedd a diwylliant! Does dim angen i chi fod yn astudio iaith i wneud cais.
Byddwch chi'n hyrwyddo manteision amlieithrwydd drwy sesiynau mentora gyda grŵp bach o ddysgwyr rhwng 12-14 oed mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru. Mae’r rôl yma yn cynnwys bwrsari hyd at £250, yn ogystal a’r cyfle i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy proffesiynol y gallwch chi ddefnyddio yn eich dyfodol, profiad proffesiynol yn yr ystafell ddosbarth a bod yn rhan o gymdeithas â'r un meddylfryd.
Bwriwch olwg ar ein gwefan a’n cyfrifon Trydar ac Instagram.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch y tîm Mentora ITM ar mflmentoring@caerdydd.ac.uk.