Cyfleoedd PhD Prifysgol Bangor- Bartneriaeth Ymchwil Methodoleg Treialon MRC-NIHR
Cyfleoedd PhD Prifysgol Bangor
A ydych chi’n barod i gymryd y cam nesaf yn eich taith academaidd? A ydych yn awyddus i gymhwyso'ch sgiliau a'ch gwybodaeth mewn disgyblaeth sy'n gysylltiedig ag iechyd? Mae'r Bartneriaeth Ymchwil Methodoleg Treialon MRC-NIHR yn cynnig cyfle cyffrous i ymgymryd â PhD, wedi’i ariannu’n llawn, sy’n canolbwyntio ar wella’r ffordd y caiff treialon clinigol eu cynllunio a’u cynnal.
Mae'r rhaglen yn cynnig projectau sy’n cyd-fynd â meysydd amrywiol gan gynnwys ystadegau, dadansoddeg data a gwybodeg, cyfrifiadureg, economeg iechyd, dulliau ansoddol, dulliau cymysg, meddygaeth glinigol a seicoleg. Mae hwn yn gyfle gwych i fyfyrwyr o amrywiaeth o feysydd pwnc roi eu sgiliau ar waith mewn lleoliad methodoleg treialon.
Mae tri phroject PhD posibl ar gael ym Mhrifysgol Bangor, gan gynnwys:
Prif oruchwyliwr: Dr Will Hardy w.hardy@bangor.ac.uk
Prif oruchwyliwr: Dr Catrin Plumpton c.o.plumpton@bangor.ac.uk
Prif oruchwyliwr: Yr Athro Dyfrig Hughes dahughes@bangor.ac.uk
Cysylltwch â'r prif oruchwylwyr os oes gennych ddiddordeb yn unrhyw un o'r projectau hyn
Dyma beth oedd gan un o'n myfyrwyr PhD presennol, Non Davies, i’w ddweud, a ddechreuodd ei thaith PhD ym Mhrifysgol Bangor ym mis Hydref 2022:
“Dechreuais fy ngradd Meistr mewn Gwyddoniaeth trwy Ymchwil yng Nghanolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau Prifysgol Bangor, lle cefais fy nhrochi ym myd ymchwil.”
Wrth siarad am ei phrofiad, dywedodd,
“Rwyf wrth fy modd yn cael y cyfle i barhau â’m hastudiaethau ym Mangor. Mae'r gefnogaeth a gefais gan fy ngoruchwylwyr, fy nghydweithwyr yn CHEME, yn ogystal ag Ysgol Ddoethurol Prifysgol Bangor yn ystod fy ngradd meistr, a'r newid i PhD, wedi bod heb ei ail. Mae'r cyfleoedd trwy'r MRC-DTP hefyd yn amhrisiadwy, ac mae yna ymdeimlad gwych o gymuned, gyda chyfarfodydd rheolaidd gyda'r myfyrwyr eraill”.
Dechreuodd Partneriaeth Ymchwil Methodoleg Treialon MRC-NIHR ym mis Mehefin 2019, yn dilyn cyllid a ddyfarnwyd gan Raglen Ymchwil Methodoleg MRC-NIHR. Arweinir y Bartneriaeth gan yr Athro Paula Williamson, sef cyn gadeirydd Rhwydwaith HTMR yr MRC.
Mae'r TMRP yn dwyn ynghyd nifer o rwydweithiau, sefydliadau a phartneriaid sy'n gweithio mewn treialon ac ymchwil methodoleg treialon.
Mae’r rhwydweithiau partner TMRP, a fydd yn ymuno â’r pum Hyb o fewn Rhwydwaith HTMR MRC, yn cynnwys:
- Y Rhwydwaith Iechyd Byd-eang (TGHN)
- Bwrdd Ymchwil Iechyd – Rhwydwaith Ymchwil Methodoleg Treialon (HRB-TMRN)
- Ymchwil Data Iechyd y Deyrnas Unedig
- Rhwydwaith Unedau Treialon Clinigol Cofrestredig UKCRC
- Rhwydwaith Rheolwyr Treialon y Deyrnas Unedig (UK TMN)
Yn ogystal, mae grwpiau o 25 o brifysgolion yn cydweithio i gynnig hyfforddiant doethurol mewn ymchwil methodoleg treialon. Gyda'i gilydd, bydd yr ysgoloriaethau ymchwil hyn yn ffurfio carfan myfyrwyr PhD Partneriaeth Ymchwil Methodoleg Treialon yn nhreialon newydd MRC-NIHR.
Bydd wyth gweithgor yn arbenigo mewn meysydd penodol sy'n berthnasol i fethodoleg y treial.
Mae'r TMRP yn rhoi cyfle i adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd gan Rwydwaith HTMR yr MRC, gan edrych ar gyfleoedd cydweithio a ffyrdd newydd i wneud cynnydd parhaus wrth ddatblygu methodoleg treialon, datblygu gallu i weithredu a lleihau gwastraff ymchwil ymhellach.