Galwad Cyllid Symudedd Ymchwil Taith nawr ar agor
Lansiwyd rownd nesaf cyllid Symudedd Ymchwil Taith ddydd Llun, 3 Chwefror. Gall ymchwilwyr ôl-raddedig Prifysgol Bangor, ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, a staff cymorth technegol neu ymchwil wneud cais am gyllid symudedd hyblyg tymor byr a thymor hir i gyrchfannau byd-eang. Mae'r cynllun hwn hefyd yn cefnogi symudedd mewnol i Brifysgol Bangor. Gwelwch y dudalen we am fanylion llawn a chofrestrwch am y sesiwn wybodaeth os hoffech ddarganfod mwy.
Sesiwn wybodaeth Taith ar-lein: Dydd Mawrth 11 Chwefror 3.30-4.30pm (Bydd y sesiwn hon yn cael ei recordio)
Sesiwn wybodaeth Taith yn bersonol: Dydd Mercher 12 Chwefror 2.15-3.15pm Prif Adeilad y Celfyddydau LR5