Mae Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen yn cynnig grantiau i fyfyrwyr uwchraddedig o Gymru sy’n astudio am radd Feistr neu PhD. Cynigir y grantiau tuag at gostau ffioedd yn unig hyd at uchafswm o £5,000.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025-26 yw 31 MAI 2025 - ac ni fydd yr Ymddiriedolwyr yn ystyried unrhyw gais a dderbynnir wedi'r dyddiad cau. Gellir gweld y canllawiau a'r ffurflenni cais ar wefan James Pantyfedwen ar www.jamespantyfedwen.cymru.