Grantiau Teithio Dramor Wartski
Rhagarweiniad
Mae Grant Teithio Dramor Wartski wedi'i sefydlu gan ddwy ymddiriedolaeth elusennol a sefydlwyd gan y diweddar Isidore a Winifred Marie Wartski. Ei ddiben yw darparu grant teithio dramor i fyfyrwyr Prifysgol Bangor i ddatblygu eu haddysg pan nad oes unrhyw fodd arall o gyllid ar gael.
Mae'r teulu'n perthyn i sefydlwyr Wartski Jewellers Bangor ac i'r Wartski Jewellers cyfredol yn Llundain.
Mae'r grantiau’n agored i fyfyrwyr o Goleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas, y Coleg Gwyddoniaeth a Pheirianneg a'r Coleg Meddygaeth ac Iechyd. Bydd dau fyfyriwr o bob Coleg yn gymwys i dderbyn cefnogaeth fesul blwyddyn academaidd.
Gellir dyfarnu uchafswm o £500 ar gyfer pob cais.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 13/12/2024
Am fwy o fanylion cysylltwch â pgr@bangor.ac.uk