Fy ngwlad:
Myfyrwyr Bangor yn eistedd ar risiau tu allan i Pontio

Gwybodaeth i Ymchwilwyr Ôl-raddedig Presennol

Mae'r Ysgol Ddoethurol yn gyfrifol am ddarparu'r systemau, polisïau a gweithdrefnau ar gyfer gwella ansawdd, ac i hyrwyddo rhagoriaeth mewn rhaglenni gradd ôl-raddedig ym Mhrifysgol Bangor.

Nod yr Ysgol Ddoethurol yw datblygu a chefnogi cymuned ymchwil ryngddisgyblaethol ac integredig, gydag ymchwilwyr ôl-raddedig yn ganolog iddi. Mae hyrwyddo cyfleoedd cyfartal a chydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith hefyd yn rhan annatod o'n gwaith.

Woman in front of board with sticky notes - room of people- training session

Hyfforddiant a Datblygiad

Mae'r Ysgol Ddoethurol yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi a datblygu i ymchwilwyr ôl-raddedig ag goruchwylwyr.

Mae copi o raglen hyfforddi a datblygu ar gael yn y ddolen isod. Bydd angen i chi gofrestru ar-lein gyda'ch cymwysterau Prifysgol Bangor er mwyn mynychu'r gweithdai. Bydd manylion y lleoliad a sut i fewngofnodi ar gyfer y gweithdai yn cael eu e-bostio yn nes at y dyddiad ar ôl i chi gofrestru.

Mae modd gweld deunyddiau hyfforddi a fideos Panopto ar dudalen Blackboard yr Ysgol Ddoethurol.

Gweithdai Hyfforddi a Datblygu

Mentor yn cefnogi cydweithiwr - y ddau yn edrych ar sgrin gliniadur

Fideos i gefnogi ymgeiswyr doethurol Gwyl

Dyma fideos (ar gael i ymgeiswyr presennol a staff) er mwyn helpu i roi cefnogaeth a datblygu sgiliau, sydd yn trafod pyniau fel:

  • Gwella sgiliau cyflwyno
  • Gwella'r gyfradd cymhwyster
  • Deall rôl y goruchwyliwr
  • Addasu i ddiwylliant academaidd y DU (ar gyfer ymgeiswyr rhynglwadol)

 

Yr Ysgol Ddoethurol, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG.

Cysylltwch â ni

Yr Ysgol Ddoethurol, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG.