Newyddion
Gweld MwyLles a chefnogaeth Ymchwilwyr Ôl-radd
Gallwch bob amser geisio cefnogaeth gan eich goruchwylwyr a/neu eich tiwtor personol (a fydd yn cael ei nodi ar eich tudalen FyMangor).
Mae’r Gwasanaeth Lles yn rhan o’r Gwasanaeth Cefnogaeth a Lles Myfyrwyr yn y Gwasanaethau Myfyrwyr.
Mae Llesiant Ymchwilydd Cymru (RWC)
Mae Llesiant Ymchwilydd Cymru (RWC) yn blatfform digidol mynediad agored sy’n darparu pecyn cymorth o adnoddau i helpu i gefnogi astudiaethau doethurol. Wedi'i greu gydag ymchwilwyr doethurol ar gyfer ymchwilwyr doethurol, mae gan RWC dros 130 o adnoddau ar-lein pwrpasol (mae enghreifftiau'n cynnwys gweithio gyda'ch goruchwylwyr, rheoli'ch amser, a chadw'n llawn cymhelliant); storïau myfyrwyr, awgrymiadau a fideos ‘diwrnod ym mywyd’ a blog preswylwyr. I’r rhai sy’n astudio mewn Prifysgolion yng Nghymru mae cyfleoedd i ymuno â grwpiau cymunedol a sesiwn ‘eistedd ac ysgrifennu’ rheolaidd. Gall RWC eich helpu i lywio eich taith ddoethurol, dod yn fwy gwydn a nodi ffyrdd buddiol o weithio.
Gweithdai Hyfforddi a Datblygu
Yr Ysgol Ddoethurol, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG.