Ymchwil ynni adnewyddadwy'r môr ym Mhrifysgol Bangor
Cefndir
Rydym wedi cael ein hamgylchynu gan un o'r ffynonellau mwyaf posibl i drosi ynni adnewyddadwy, sef y môr. Er yr amcangyfrifwyd bod y potensial dros 10 TW, yn cynnwys trosi ynni llanw ac ynni thermol y môr (OTEC), ar hyn o bryd mae llai na 50 MW o gapasiti ynni adnewyddadwy'r môr wedi'i osod ledled y byd. Felly dyma un o'r sectorau ynni adnewyddadwy mwyaf cyffrous ac arloesol i gael ei ymchwilio.
Themâu ymchwil
Mae ymchwil ynni adnewyddadwy'r môr ym Mhrifysgol Bangor, p'un a yw'n ymchwil awyr las neu'n ymchwil a datblygu ar y cyd, wedi tueddu i ganolbwyntio ar asesu a nodweddu adnoddau tonnau a'r llanw, gyda'r amcanion cyffredinol canlynol:
- Dulliau gwell o nodweddu adnoddau ac amodau'r môr
- Lleihau costau a gwytnwch
- Trydan o ansawdd gwell
- Cefnogi'r trawsnewid o brototeip i fasnacheiddio
- Gwell mynediad at drydan
Ffynonellau cyllido
Cronfeydd strwythurol
Dechreuodd Prifysgol Bangor gymryd rhan mewn ymchwil ynni adnewyddadwy'r môr a ariannwyd gyda dau broject cronfeydd strwythurol Ewropeaidd a gynhaliwyd ochr yn ochr yn 2010-2013: SEACAMS (gweithio ar draws pob sector morol), ac yn arbennig LCRI, gan weithio'n benodol ar ynni adnewyddadwy'r môr. Roedd y ddau broject hyn yn seiliedig ar brojectau ymchwil a datblygu, gan weithio ar y cyd â diwydiant, ac arweiniodd project SEACAMS at greu Canolfan Môr Cymru ym Mhorthaethwy. Esblygodd SEACAMS i fod yn ail broject a gyllidwyd, SEACAMS2 (2014-2020), a oedd yn canolbwyntio'n llwyr ar ynni adnewyddadwy'r môr, mewn cydweithrediad eto â diwydiant. Bydd y project mwyaf diweddar SEEC (canolfan ynni effeithlon smart), 2019-2023, yn ymchwilio i swyddogaeth ynni adnewyddadwy'r môr mewn systemau ynni'r dyfodol, yn cysylltu sectorau ynni carbon isel eraill trwy ganolfan seiber-isadeiledd gyffredin. Yn wahanol i'r tri phroject cronfeydd strwythurol ynni morol blaenorol ym Mhrifysgol Bangor, mae SEEC yn ganolfan rhagoriaeth academaidd a fydd yn canolbwyntio ar ennill grantiau yn hytrach na chydweithio penodol â diwydiant. Mae cyllid cyfredol Iwerddon/Cymru ym Mhrifysgol Bangor yn cynnwys y project ECOSTRUCTURE (2017-2020) sy'n ymchwilio i sut y gellir cynllunio isadeiledd ynni ar y môr i leihau effeithiau amgylcheddol. Mae cyllid strwythurol hefyd wedi cefnogi sawl myfyriwr PhD, yn cynnwys projectau KESS (ESF) i nodweddu adnoddau ynni llanw sydd wedi denu buddsoddiad oddi wrth ddiwydiannau er enghraifft, Nortek a Repetitive Energy Ltd.
Cyllid y cyngor ymchwil
Mae Prifysgol Bangor wedi bod yn rhan o sawl project EPSRC a ariennir yn ymchwilio i ynni adnewyddadwy'r môr, yn cynnwys EP / J010200 / 1 (2012-2015) yn ymchwilio i effeithiau llif llanw realistig ar berfformiad a chyflwr strwythurol tyrbinau llif y llanw, a chymrodoriaeth ynni diweddaraf EPSRC EP / R034664 / 1 sy'n gwella dulliau o nodweddu adnoddau, rhyngweithio ac amodau (METRIC). Bu project peilot (EP / R000611 / 1) hefyd yn gweithio ar ddatblygu methodolegau yn y fan a'r lle i nodweddu cynnwrf mewn safleoedd ynni llanw.
Lywodraeth Cymru a HEFCW
Cynhaliwyd NRN-LCEE (Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol i Ynni Carbon Isel, a'r Amgylchedd) rhwng 2013 a 2019 a bu'n cefnogi clwstwr o ynni adnewyddadwy'r môr Quotient, a ymchwiliodd i asesu ac optimeiddio adnoddau, ac effeithiau amgylcheddol ynni o'r môr. Arweiniodd Quotient at gymrodoriaeth ynni lwyddiannus EPSRC (uchod), gan arwain at rai canfyddiadau gwyddonol trawsddisgyblaethol; er enghraifft (1) ansawdd (felly gwerth potensial) pŵer o dyrbinau hydrocinetig bod yn uchel, (2) dylanwad tonnau ar yr adnodd llanw, (3) cyfeirio'r diwydiant tuag at dechnolegau i gynaeafu safleoedd dwr dwfn llai egnïol. Roedd Quotient yn glwstwr llwyddiannus iawn yn creu adenillion o ~ £21M o incwm ymchwil i Gymru, ar ôl buddsoddiad cychwynnol o oddeutu £0.5M, ac arweiniodd at dros 20 o erthyglau mewn cyfnodolion a adolygwyd gan gymheiriaid.
Ffynonellau cyllid eraill
Mae ffynonellau cyllid eraill wedi cynnwys efrydiaeth PhD Fujistu/HPC Cymru, yn efelychu'r rhyngweithio rhwng echdynnu ynni'r llanw a'r amgylchedd.
Enw da rhyngwladol
Mae gan staff Prifysgol Bangor nifer o swyddogaethau ynni adnewyddadwy'r môr ar lefel rhyngwladol. Mae'r rhain yn cynnwys swyddogaethau gwyddonol yn y Fundy Ocean Research Center for Energy (FORCE) ym Mae Fundy (Canada), a'r project ynni AUSTEn yn Awstralia. Mae Prifysgol Bangor yn bartner yn rhwydwaith ynni adnewyddadwy'r môr PRIMaRE , ac mae gan staff swyddogaethau ymgynghorol yn y Supergen ORE Hub. Mae gan staff swyddi golygyddol ar gyfnodolion rhyngwladol fel Renewable Energy a JMSE, ac wedi cynnull sesiynau ynni adnewyddadwy'r môr mewn cynadleddau rhyngwladol fel Cyfarfod Gwyddorau'r Eigion AGU (2016, 2018, 2020) a Chynulliad Cyffredinol EGU (2017, 2018, 2019). Mae staff hefyd wedi cyhoeddi gwerslyfr ar ynni adnewyddadwy'r môr (yn cynnwys trosi ynni thermol y tonnau, llanw, gwynt ar y môr ac ynni'r môr), Fundamentals of Ocean Renewable Energy: Generating Electricity from the Sea; ac wedi cynhyrchu deunydd estyn allan STEM. Mae Prifysgol Bangor hefyd yn cynnig MSc mewn ynni adnewyddadwy'r môr - un o ddim ond tair rhaglen MSc mewn ynni o'r môr yn y DU.