Gwyliwch y seremonïau Graddio yn fyw
#GraddioBangor: dyddiadau seremoniau, amserlen a gwybodaeth allweddol
Bydd y dolenni hyn yn fyw 21 Hydref 2024
Cofrestru yma; Myfyriwr Presennol
Mae angen i'r holl fyfyrwyr sydd â hawl i ddod i'r Seremonïau Graddio roi gwybod i ni erbyn 4yp 8 Tachwedd 2024 a fyddant yn dod i'r seremoni neu beidio. Dilynnwch y bwtwm 'Cofrestru Yma' (uchod)) o hanner dydd 21 Hydref 2024 ymlaen er mwyn cofrestru.
Ni chaniateir i fyfyrwyr fynychu'r seremoni os nad ydynt wedi cofrestru eu presenoldeb erbyn 8 Tachwedd 2024
Ar y diwrnod:
Mae'r holl Seremonïau'n cael eu dangos yn fyw ar wefan y Brifysgol felly gellir eu gwylio'n fyw.
Dylai myfyrwyr gyrraedd y Prif Ddarlithfa'r Celfyddydau o leiaf 90 munud cyn ddechrau'r seremoni i gofrestru eu presenoldeb,
Mae mynediad i'r seremoni ar gyfer pob gwestai DRWY DOCYN YN UNIG Nid oes ar fyfyrwyr angen tocyn. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn hoffi dod â ffrindiau a theulu gyda nhw i'w seremoni raddio. Gan fod nifer y seddi yn Neuadd Prichard-Jones yn gyfyngedig, ni allwn warantu ond DAU DOCYN GWESTAI i bob myfyriwr os ydych yn archebu erbyn 8 Tachwedd 2024
Gallwch archebu tocynnau ar-lein drwy'r ddolen yn yr ebost
Os methwch â phrynu'ch tocynnau gwesteion erbyn 8 Tachwedd 2024 ni allwn warantu y bydd eich gwesteion yn gallu bod yn bresennol yn y seremoni.
Os daw unrhyw docynnau ychwanegol ar gael ar gyfer unrhyw rai o'r seremonïau, caiff y rhain Ar-lein am 9yb 4 Rhagfyr 2024 drwy ddilyn y ddolen wreiddiol a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru eich presenoldeb. Bydd y tocynnau'n am ddim yr un a chyfyngir hwy i ddau docyn ychwanegol i westeion i bob myfyriwr. Os bydd tocynnau ychwanegol ar gael fe'u gwerthir ar sail y cyntaf i’r felin.
NID OES tocynnau gwesteion ychwanegol ar gael ar gyfer y eremoniau a gynhelir ar Ddydd Iau 19 Rhagfys a Dydd Gwenwr 20 Rhagfyr
Dim ond ar-lein y gellir archebu tocynnau
I anfonir y tocynnau atoch trwy’r post, byddant ar gael i’w casglu ar ddiwrnod eich seremoni o Brif Ddarlithfa’r Celfyddydau.
Casglu Tocynnau
Bydd holl docynnau gwesteion ar gael i’w casglu wrth y ddesg cofrestru myfyrwyr ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau.
Mae'n rhaid i docynnau gael eu casglu o leiaf 30 munud cyn dechrau'r seremoni.
Ym Mhrifysgol Bangor mae graddio'n achlysur teuluol ac mae croeso i blant ddod i'r seremoni. Fodd bynnag, mae'n rhaid i oedolyn fod efo nhw. Mae'r seremonïau’n para oddeutu 90 munud ac rydym wedi gweld trwy brofiad bod plant yn diflasu a mynd yn aflonydd; felly nid ydynt yn addas i blant ifanc iawn. O ran parch at westeion eraill rydym yn gofyn am i blant gael eu hebrwng allan o'r neuadd os byddant yn mynd yn aflonydd yn ystod y seremoni rhag iddynt darfu ar y digwyddiadau a mwynhad gwesteion eraill.
Rhaid i blant dan 3 oed (dim mwy na dau i bob myfyriwr) eistedd ar lin oedolyn ac nid ar sedd. Nid oes angen tocyn arnynt. Rhaid i blant 3 oed a hŷn gael tocyn i westeion i gael mynd i'r seremoni.Os ydych yn dod â babi sy'n dal mewn pram neu goets fach i'r seremoni, a fyddech cystal â nodi hynny pan fyddwch yn prynu eich tocynnau. Gofynnir i chi p'un a ydyw unrhyw rai o'ch gwesteion angen unrhyw drefniadau arbennig. Ein cyngor yw i blant wylio'r seremoni o Brif Ddarlithfa'r Celfyddydau, lle nad oes angen tocynnau.
Gwesteion ychwanegol:
Mae croeso i chi ddod â gwesteion ychwanegol a gallant wylio’r seremoni a ddarlledir ar sgrin fawr mewn darlithfa gerllaw - nid oes angen tocynnau ar gyfer hyn.
Mae graddio yn achlysur ffurfiol ac mae gofyn i fyfyrwyr wisgo gwisg academaidd.
Mae'r wisg yn cael ei harchebu drwy Ede and Ravenscroft fan yma o 21 Hydref 2024 ymlaen Gwisg Academaidd. Dyddiad cau i archebu ar-lein yw 5 Rhagfyr 2024.
Mae'r dyddiadau ar gyfer Seremoniau y Gaeaf wedi'u cadarnhau fel 19 & 20 Rhagfyr 2024
Bydd Myfyrwyr rhyngwladol sydd angen llythyr fisa ar gyfer eu gwesteion yn gallu trefnu hyn wrth archebu tocynnau gwestai ar lein ym mis Hydref.
GRADDIO RHAGFYR 2024
|
|
Ysgol |
Dydd Iau |
19 Rhagfyr |
|
1 |
10.00 am |
Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Ysgol Gwyddorau Eigion Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Ysgol Addysg |
2 |
1.00 pm |
Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau Ysgol Y Gymraeg Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon |
3 |
4.00 pm |
Ysgol Addysg Ysgol Hanes, Y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas |
Dydd Gwener |
20 Rhagfyr |
|
4 |
10.00 am |
Ysgol Gwyddorau Iechyd Ysgol Feddygol Gogledd Cymru |
5 |
1.00 pm |
Ysgol Busnes Bangor: Busnes a Marchnata Marchnata Rhyngwladol Rheolaeth Rheolaeth a Chyllid |
6 |
4.00 pm |
Ysgol Busnes Bangor: holl gyrsiau eraill |
|
|
|
Cyfle i longyfarch ein Graddedigion a rhannu eich dathliadau Graddio.
Defnyddiwch #GraddioBangor a #PrifysgolBangor ar Instagram neu Twitter - gall ymddangos yma.
Newyddion Graddio
Memorabilia
Rwyt ti wedi cael y radd, dim ond prynu'r crys-t sydd ei angen nawr! Rydym wedi ymuno â’r anhygoel Campus Clothing i ddarparu ystod unigryw o Anrhegion a Dillad Graddio Swyddogol wedi’u brandio. O hwdis moethus a chrysau-t gydag enwau graddedigion wedi'u hargraffu ar y cefn, mygiau, a bathodynnau pin. Dewiswch rywbeth arbennig i'w gadw i gofio'ch seremoni radio. Gallwch hyd yn oed ei bersonoleiddio i wneud i'ch enw sefyll allan hefyd!
Dewch i ymweld â stondin cyfeillgar Campus Clothing yn eich seremoni raddio, lle bydd casgliad o nwyddau graddio ar gael i'w prynu. Bydd yr holl stoc ar gael ar sail y cyntaf i’r felin gaiff falu. Gallwch hefyd archebu eitemau yr hoffech eu personoli yn y digwyddiad.
Fel arall, porwch yr ystod lawn o Anrhegion a Dillad Graddio ac archebwch nwyddau graddio wedi’u personoleiddio ar-lein i'w danfon gartref.
Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG