Rhaglen Baglor Nyrsio (Anrh) - Gwybodaeth ac adborth i ymgeiswyr a wrthodwyd lle iddynt ar ôl y cyfweliad
Diolch i'r holl ymgeiswyr a ddaeth i'n dyddiau dewis. Da iawn chi am gael cynnig cyfweliad!
Cawsom nifer fawr iawn o ymgeiswyr ar gyfer nifer cyfyngedig o leoedd gwag ac mae ansawdd y ceisiadau wedi bod yn uchel. Arweiniodd hyn at gystadleuaeth ar gyfer pob un o'r lleoedd oedd ar gael. Roedd dros 100 o ymgeiswyr yn bodloni'r meini prawf i fynd ar y rhestr fer ac fe'u gwahoddwyd i'r diwrnod dewis/cyfweld.
I weld gwybodaeth am y meini prawf, edrychwch ar y cyflwyniad ar y wefan am y rhai a wrthodwyd cyfweliad.
Roedd dewis ymgeiswyr i gael lle ar y cwrs yn dibynnu ar nifer y lleoedd oedd ar gael. Roedd gennym leoedd cyfyngedig i'w cynnig felly roedd rhaid gwneud dewisiadau anodd.
Dewiswyd yr ymgeiswyr llwyddiannus trwy edrych ar sawl ffactor oedd yn cynnwys y canlynol:
- Gwaith ysgrifenedig:
- Prawf rhifedd
- Cyfweliadau grŵp
- Ceisiadau gwreiddiol, yn cynnwys eich proffil addysg, profiad gofal oedolion a;
- Datganiad personol, yn cynnwys ansawdd y wybodaeth a gyflwynwyd fel tystiolaeth o ofal i ategu'r datganiad personol.
- Gweler y cyflwyniad ar y wefan am y rhai a wrthodwyd cyfweliad am adborth ar ddatganiadau personol.
Cynnig lle ar y cwrs
Gwnaed cynigion wrth ystyried y ffactorau a restrir uchod;
- Gwaith ysgrifenedig a rhifedd - cyfeirio at y norm;
- ni farciwyd y gwaith gydag unrhyw feini prawf penodol ond gan gymharu â gwaith ymgeiswyr eraill ar y diwrnod;
- Geirdaon.
Ailedrych ar y meini prawf i fynd ar y rhestr fer:
- Cyrhaeddiad addysgol;
- Profiad priodol o ofalu am oedolion neu dystiolaeth gref o wirfoddoli;
- A wnaethoch ddarparu tystiolaeth o brofiad gofal?
- Pe na baech wedi darparu hyn yn y cyfweliad, byddai hyn yn effeithio ar ein penderfyniad
- Eich dealltwriaeth o nyrsio.
- Sut ydych yn teimlo aeth y cyfweliad?
- Sut ydych yn teimlo aeth y gwaith ysgrifenedig a rhifedd?
- A oeddech yn gallu cyflwyno eich hun yn effeithiol fel rhan o'r grŵp?
Yn dilyn y diwrnod dewis, o'i gymharu ag ymgeiswyr eraill, ni lwyddodd y rhai aflwyddiannus i argyhoeddi'r panel o'u haddasrwydd i fynd ar y cwrs nyrsio y tro hwn cystal ag y gwnaeth yr ymgeiswyr eraill.
Mae'r cynigion a wneir yn amodol. Pe bai cynigion yn cael eu gwrthod, neu os na fodlonir yr amodau, byddwn yn ailedrych ar bawb a ddaeth i gyfweliad ac efallai y cynigir lle yn ddiweddarach i rai ohonynt.
Ailystyrir yr holl gyfweleion cyn gwneud unrhyw gynnig dilynol.
A hoffech wybod mwy?
E-bost: ceisiadau.iechyd@bangor.ac.uk