Beth yw Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL)?
Mae cydnabod dysgu blaenorol (RPL) yn broses a ddefnyddir mewn addysg uwch i ganiatáu derbyn dysgu ardystiedig neu ddysgu trwy brofiad blaenorol fel rhywbeth sy'n bodloni rhai o ddeilliannau a gofynion rhaglen (am fanylion darllenwch Reoliadau Prifysgol Bangor ar Raglenni Hyfforddedig). Cytunir ar brosesau RPL neu drosglwyddo credyd wrth ddilysu rhaglenni astudio a dylai Arweinydd y Rhaglen neu Gwrs allu trafod yr opsiwn hwn pan fyddwch yn gwneud cais.
Os yw'r dysgu a'r profiad sydd gennych yn berthnasol i'r rhaglen neu'r cwrs y dymunwch wneud cais amdano, y gellir ei asesu, a'i fod yn bodloni'r meini prawf y cytunwyd arnynt wrth ddilysu, yna gall fod yn bosibl ennill credyd amdano.
Trosglwyddo Credydau
Gall astudio blaenorol gyfrannu tuag at y credydau sydd eu hangen ar gyfer rhaglen. Cysylltwch ag Arweinydd y Rhaglen neu Gwrs astudio y mae gennych ddiddordeb ynddo ac am fwy o fanylion, a darllenwch Reoliadau Prifysgol Bangor ar Raglenni Hyfforddedig.
Beth mae RPL neu Drosglwyddo Credyd yn ei olygu i mi?
Efallai y byddwch eisiau astudio cyrsiau a chanfod nad yw eich cymwysterau cyfredol yn bodloni'r meini prawf mynediad. Gallai'r broses RPL roi'r canlynol i chi:
-
Llwybr arall i ennill credyd o fewn y graddau gofal iechyd cyn-gofrestru (sylwer bod gofynion proffesiynol penodol yn ôl y rheolydd iechyd a gofal cymdeithasol).
-
Llwybr i gael dilyn graddau ôl-gofrestru.
-
Trosglwyddo credyd yn erbyn rhaglenni MSc neu Ddoethuriaeth Broffesiynol (cyfeiriwch at y Rheoliadau ar gyfer Rhaglenni Ymchwil Ôl-radd).
Portffolio Dysgu trwy Brofiad
Os ydych yn ceisio credyd wedi'i seilio ar ddysgu drwy brofiad, yna fe'ch cynghorir i gynhyrchu portffolio RPL. Mae'r portffolio yn ffeil lle byddwch yn cyflwyno'r holl fanylion a'r dystiolaeth sydd eu hangen er mwyn i'ch dysgu blaenorol gael ei asesu. Dylai'r dystiolaeth hon fod yn llai na phump oed i ddangos bod eich gwybodaeth a phrofiad yn gyfredol. Bydd grŵp o aseswyr penodedig yn asesu'r dystiolaeth ar gyfer dyfarnu credyd.
Beth ydw i'n ei wneud nesaf?
Os ydych yn dymuno gwneud ymholiad neu drafod cais ar gyfer RPL cysylltwch ag Arweinydd y Rhaglen neu diwtor derbyn ar gyfer y cwrs astudio mae gennych ddiddordeb ynddo. Gallwch hefyd gysylltu â thîm RPL, healthsciencesrpl@bangor.ac.uk am gyngor ynglŷn â RPL. Yn dilyn ymgynghoriad, llenwch ein ffurflen a'i hanfon at ein tîm healthsciencesrpl@bangor.ac.uk.
Prifysgol Bangor Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd Ffurflen Gais RPL / APL
Ffioedd
Ymgynghoriad cychwynnol - Am ddim
Trosglwyddo Credyd Uniongyrchol (a restrir ar hyn o bryd) - Am ddim
Trosglwyddo Credyd Uniongyrchol (heb ei restru ar hyn o bryd) - Am ddim
Portffolio - Yn dibynnu ar y rhaglen