Sesiwn holi ac ateb
Sesiwn holi ac ateb rhwng:
Laura Davies, darpar nyrs iechyd meddwl, a David Phillips, sylfaenydd a chadeirydd Sefydliad Anna Phillips.
Cynhaliwyd y cyfweliad:
3 Mai, 2022.
1. Dywedwch wrthym am eich sefydliad.
Sefydlwyd Sefydliad Anna Phillips er cof am Anna Phillips, merch David, ac mae’n elusen gofrestredig. Amcan yr elusen yw helpu pobl sydd â heriau iechyd meddwl cysylltiedig â thrawma. Y tair ffordd y gwnânt hynny yw trwy gynnal gweithgareddau ym myd natur; cydweithio ag ymchwilwyr i ddeall yn well effaith/buddiannau’r amgylchedd/byd naturiol i bobl â phrofiadau trawma a thrwy ymgyrchu i wella’r ddealltwriaeth o’r rhesymau dros hunan-niweidio/hunanladdiad a lleihau’r stigma sy’n gysylltiedig â hyn.
2. Beth yw ethos y sefydliad?
Mae tri gwerth wrth wraidd y Sefydliad: tosturi, symlrwydd a chyfiawnder.
Mae tosturi yn gysylltiedig â chariad a'r ffordd y mae pobl yn ymddwyn tuag at ei gilydd. Symlrwydd oherwydd nad yw cymhlethdod y byd heddiw bob amser am y gorau, a gall dychwelyd at ddilysrwydd a'r pethau syml fel bod ym myd natur fod yn arf pwerus.
Cyfiawnder i sicrhau bod pobl yn cael y gofal a’r gefnogaeth y maent yn eu haeddu yn enwedig ar ôl profiadau trawmatig. Cenhadaeth y Sefydliad yw creu byd lle gall pobl deimlo'n ddiogel a chael eu trin â pharch - 'bod yn ddiogel yw bod yn rhydd'. Gall defnyddio byd natur i wneud hyn helpu rhywun i symud i ffwrdd o'r trawma y maent wedi'i brofi a chanolbwyntio ar les trwy fod mewn amgylchedd pur.
3. Ar ba brojectau ydych chi'n gweithio arnynt ar hyn o bryd / ar gyfer y dyfodol?
Y thema gyffredinol sy’n rhedeg drwy’r holl brojectau yw ceisio lleihau effaith trawma drwy fynd yn ôl at fyd natur. Bydd y Sefydliad yn gweithio ar iechyd, ymchwil a pholisi. Mae’r agwedd iechyd ar gael ar leoliad yn Nhŷ Anna, lle gellir cyfeirio pobl i gael mynediad i le diogel i weithio trwy eu trawma ac ailgysylltu â byd natur. Diben yr ymchwil, fel y crybwyllwyd uchod, yw darparu tystiolaeth y gall bod ym myd natur fod o fudd enfawr wrth helpu rhywun i ymdopi â'u hiechyd meddwl sy'n gysylltiedig â thrawma. Mae'r Sefydliad yn barod i gydweithredu a chymryd rhan mewn unrhyw ymchwil sy'n gysylltiedig â gofal gwyrdd ac ecotherapi.
Mae’r Sefydliad hefyd yn ymgyrchu am newidiadau mewn deddfwriaeth i geisio lleihau effaith stigma ar y bobl hynny – nifer anghymesur ohonynt yn ferched – sy’n cael diagnosis o anhwylder personoliaeth ffiniol. Ar hyn o bryd mae’r unigolion hyn yn cael eu trin mewn ffordd ddiraddiol gan y system, yn enwedig o ran cael mynediad at wasanaethau therapiwtig. Mae angen ail-fframio cwestiynau sy'n canolbwyntio ar ofyn “beth ddigwyddodd i chi” nid “beth sy'n bod arnoch chi”. Mae’r Sefydliad yn ymgyrchu i geisio cael Llywodraeth Cymru i newid eu safiad ar hyn a sicrhau bod digon o gefnogaeth ac ymwybyddiaeth o’r diagnosis hwn.
4. Pa neges fyddech chi'n ei rhoi i'r sawl sy'n darllen y wybodaeth hon?
Mae David yn gobeithio y byddai unrhyw un sy'n darllen y wybodaeth hon eisiau darganfod mwy am yr hyn y mae Sefydliad Anna Phillips yn ei wneud, ac eisiau cael gwell dealltwriaeth o'r hyn y mae am ei gyflawni. Hoffai i bawb wybod am y Sefydliad p'un a ydynt yn glinigwyr, yn aelodau o'r cyhoedd neu'n bobl a fyddai'n elwa'n uniongyrchol o'r gwaith y mae'r Sefydliad yn ei wneud. Mae'n arbennig o awyddus i'r bobl hynny a fyddai'n elwa o ecotherapi ddysgu mwy am y Sefydliad fel y gallant ailddarganfod eu llwybr eu hunain a dod yn awdur eu stori eu hunain.
5. Beth yw’r prif bwynt yr hoffech i fyfyrwyr wybod amdano?
Byddai croeso i fyfyrwyr ddod i'r gofod i helpu/gwirfoddoli. Mae David yn gobeithio rhyw ddiwrnod efallai y bydd cyfle i fyfyrwyr gael profiad o Sefydliad Anna Phillips o safbwynt lleoliad.