Ymgeiswyr UCAS Nyrsio Oedolion, Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu
Llongyfarchiadau ar gyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad dethol cwrs BN Nyrsio ym Mhrifysgol Bangor.
Gofalwch eich bod yn dilyn yr wybodaeth bwysig yma ar gyfer eich cyfweliad a'ch bod yn darllen yr holl wybodaeth ganlynol cyn bwrw ymlaen i drefnu eich cyfweliad (gwybodaeth pellach isod).
Mae croeso mawr ichi gael eich cyfweliad yn Gymraeg neu yn Saesneg neu gymysgedd o'r ddau. Ni fyddwn yn eich marcio ar Safon y Gymraeg, ond byddai'n well gennym ichi ddefnyddio pa bynnag iaith rydych chi'n teimlo'n fwyaf cyfforddus â hi.
Cynnheli’r yr holl gyfweliadau ar gyfer y rhaglenni cyn-gofrestru ar-lein. Byddwn yn defnyddio'r platfform cyfarfod ar-lein Zoom i hwyluso'r cyfweliadau. Mae Zoom yn gweithio ar lawer o lwyfannau TG, yn cynnwys ffôn symudol, cyfrifiadur personol, a dyfeisiau electronig eraill. Pan fyddwch yn mewngofnodi i Zoom ar gyfer eich cyfweliad, mae'n hanfodol eich bod yn defnyddio eich enw go iawn ac nid llysenw. Os yw'ch enw defnyddiwr Zoom eisoes wedi'i sefydlu gyda llysenw, newidiwch ef i'ch enw go iawn cyn y cyfweliad (gellir gwneud hyn yn eich Proffil).
Gweler y gwefannau canlynol am ragor o wybodaeth:
- https://zoom.us
- https://www.techradar.com/uk/news/what-is-zoom-how-does-it-work-tips-and-tricks-plus-best-alternatives
Mae'n bwysig eich bod yn ymarfer agor Zoom cyn eich cyfweliad, yn dysgu sut i ymuno â chyfarfod, yn gwybod sut i ddefnyddio'r cyfleuster "chat" a sut i rannu'r sgrin gan y bydd gofyn i chi rannu eich sgrin yn ystod eich cyflwyniad. Gallwch ymarfer gyda ffrindiau, gan ei fod hefyd yn ffordd dda o gwrdd yn ystod cyfnodau clo. Mae'r cyswllt hwn yn rhoi gwybodaeth am swyddogaethau sylfaenol Zoom, gan gynnwys sut i rannu eich sgrin;
Y Drefn Gyfweld
Sgwrs Ragarweiniol Gyffredinol
Bydd y sesiwn hon yn darparu gwybodaeth am yr Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd, ein prosesau dewis a gofynion yr Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC). Byddwn hefyd yn darparu gwybodaeth am y cwrs, ein disgwyliadau gennych chi, eich lleoliadau, sy'n ffurfio 50% o'r cwrs, gofynion y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a gofynion iechyd galwedigaethol. Sesiwn wedi'i recordio ymlaen llaw yw hon a rhaid i chi wylio hon cyn i chi ddod i'ch cyfweliad. Dilynwch y ddolen hon i gael mynediad i'r sgwrs gyffredinol.
Cyfweliad
- Os ydych chi am gael eich cyfweliad yn Gymraeg neu gymysgedd o Gymraeg a Saesneg, dewiswch slot cyfweliad yn y prynhawn, lle bydd ein tiwtoriaid dwyieithog wrth law i hwyluso'ch gofynion a'ch helpu chi i deimlo'n fwy cyfforddus.
- Ar ddechrau eich cyfweliad unigol, bydd gofyn i chi gyflwyno eich prawf adnabod i'r cyfwelydd a hefyd gadarnhau eich tystiolaeth o rifedd a llythrennedd.
- Ar gyfer eich cyfweliad unigol bydd gofyn i chi baratoi cyflwyniad pum munud sy'n egluro eich dealltwriaeth o bwysigrwydd sgiliau cyfathrebu da mewn perthynas â'r maes rydych wedi ei ddewis. Bydd rhaid i chi ystyried sut mae cyfathrebu da yn cyfrannu at ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, i ddiwallu anghenion amrywiol cleifion a chleientiaid sy'n derbyn gofal. Gallwch ddefnyddio unrhyw gymhorthion gweledol a ddymunwch i gefnogi eich cyflwyniad, ond rhaid i chi aros o fewn y pum munud a roddir.
- Ar ôl eich cyflwyniad pum munud, bydd eich cyfwelydd/cyfwelwyr yn gofyn rhai cwestiynau yn seiliedig ar werthoedd i chi er mwyn trafod unrhyw faterion a gododd yn eich cyflwyniad a'r rhinweddau a'r gwerthoedd sy'n angenrheidiol ar gyfer ymarfer nyrsio yn y maes rydych wedi ei ddewis. Yr un yw cwestiynau’r cyfweliad ag yr ydym wedi bod yn eu defnyddio ar gyfer ein mini-gyfweliadau. Rydym yn edrych ar eich rhinweddau, eich gwerthoedd a'ch gallu i ddangos dealltwriaeth o garedigrwydd deallus.
- Ar ddiwedd y cyfweliad cewch gyfle i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych.
- I drefnu dyddiad ac amser eich cyfweliad unigol (os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes), dilynwch y ddolen hon.
Paratoi at eich cyfweliad:
- Rhaid i chi ymarfer defnyddio Zoom, chwilio am le tawel i gael eich cyfweliad lle na fydd unrhyw un yn torri ar eich traws ac sydd â golau da.
- Bydd eich cyfweliad unigol yn cymryd tua 20-30 munud.
Beth fydd yn digwydd ar ôl y cyfweliad?
Cewch wybod am ganlyniad y cyfweliad trwy UCAS Track, felly mae'n bwysig eich bod yn edrych ar eich cyfrif yn rheolaidd. Gall gymryd tua dwy wythnos waith i'ch canlyniad cyfweliad a'ch cynnig gael ei brosesu.
A yw pob dim yn barod gen i at y cyfweliad?
Ni fydd modd cynnal eich cyfweliad oni bai bod y dogfennau canlynol gennych:
- Pasbort neu drwydded yrru fel prawf o bwy ydych
- Tystysgrifau TGAU Mathemateg a Chymraeg neu Saesneg neu gymwysterau cyfatebol fel Lefel 2 sgiliau allweddol mewn rhifedd / llythrennedd
Rhaid bod y dogfennau gwreiddiol gennych yn y cyfweliad a rhaid i chi eu dangos i'r cyfwelydd yn ystod eich cyfweliad ar-lein unigol.