Catherine Cuffe - Myfyrwraig Nyrsio Oedolion Blwyddyn 3
Mae fy nhraethawd wedi ei seilio ar broject gwella ansawdd i wella gofal iechyd y cleifion hynny sy'n uniaethu'n drawsrywiol. Tra roeddwn ar leoliad clinigol yn ddiweddar, roedd rhywfaint o ddryswch ynglŷn â rhywedd, enwau a rhagenwau unigolyn sy'n drawsrywiol. Sylwais fod y pecyn derbyn yn cynnwys opsiwn ar gyfer dynion a menywod yn unig yn adran rywedd yr asesiad ac nad oedd lle i ddim arall.
Ymchwiliais i'r mater yma, a gwelais o'r llenyddiaeth fod diffyg mawr o ran hyfforddiant ac addysg ar anghenion gofal iechyd unigolion trawsrywiol yn y Deyrnas Unedig. Rwyf wedi creu taflen yr hoffwn ei dosbarthu i weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn enwedig nyrsys mewn lleoliadau clinigol amrywiol er mwyn cynyddu eu gwybodaeth nhw a lleihau'r stigma sydd i'r unigolion dan sylw.
Credaf fod hwn yn faes gofal iechyd sy'n esblygu ac mae'n bwysig iawn i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac addysgol. Trwy addysg a rhoi mwy o sylw i'r mater, gallwn hyrwyddo proffesiynoldeb a sicrhau bod buddiannau pob claf yn parhau i fod yn flaenoriaeth.