Statws Ychwanegol
Sylwer na ddylid cyfrif myfyrwyr ar leoliad yn y lefelau staffio yn ystod unrhyw leoliadau ymarfer. Dylai hyn hefyd alluogi myfyrwyr i ddilyn taith y claf/cleient bob amser.
Myfyrwyr bydwreigiaeth cyfeiriwch at adran y Llawlyfr Lleoliad yn yr ‘Gwybodaeth Bydwreigiaeth / Midwifery Information’
Myfyriwr nyrsio cyfeiriwch at adran 2.2 y Llawlyfr Lleoliad: Statws Ychwanegol yn yr Gwybodaeth Myfyrwyr:
Pan fyddant yn cymryd rhan mewn lleoliadau ymarfer clinigol, ystyrir bod pob myfyriwr nyrsio yn ychwanegol (supernumerary) i'r gweithlu; mae hyn yn golygu nad yw myfyrwyr yn cael eu cynnwys yng nghyfrifiadau gweithlu'r ward ar unrhyw adeg mewn perthynas ag amrywiaeth sgiliau neu nifer staff. Nid yw myfyrwyr yn cymryd lle staff nyrsio cofrestredig neu weithwyr cefnogi gofal iechyd sy'n absennol oherwydd salwch neu absenoldeb astudio. Mae statws o fod yn ychwanegol i'r gweithlu'n hollbwysig; mae'n galluogi myfyrwyr i ganolbwyntio ar ddysgu pan fyddant ar ymarfer clinigol.
Sylwch y gellwch hefyd roi gwybod am faterion sy'n effeithio ar ansawdd yr amgylchedd dysgu trwy'r polisi a'r broses Codi Pryderon.