'Documentary in Wales'
'Documentary in Wales'
Disgrifiwyd llyfr newydd ar gynhyrchu ffilmiau dogfen fel 'carreg filltir yn y llenyddiaeth ar sinema a darlledu yng Nghymru'. Mae Documentary in Wales: Cultures and Practices yn cynnwys penodau unigol gan Geraint Ellis a Joanna Wright o’r Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau, Ieithyddiaeth a’r Cyfryngau, y ddau ohonynt yn ysgrifennu am eu profiadau eu hunain fel gwneuthurwyr ffilmiau dogfen. Mae pennod Geraint yn canolbwyntio ar raglenni dogfen celfyddydol i’r teledu, a’r her o geisio apelio at gynulleidfa mor eang â phosib yn y maes penodol hwnnw. Mae Joanna yn ymdrin ag ymarfer dogfennol rhyngweithiol, trochol a digidol a'i gwaith cynhyrchu parhaus. Mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys cyfraniadau gan ddeg o wneuthurwyr ffilmiau dogfen ac academyddion eraill sydd wedi gweithio yng Nghymru. Y cyhoeddwyr yw Peter Lang, a’r golygyddion yw Dafydd Sills-Jones ac Elin Haf Gruffydd Jones. Mae'n rhan o gyfres o gyfrolau o'r enw Documentary Film Cultures, sy'n archwilio traddodiadau ffilmiau dogfen ar draws y byd.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2021