Anne sy'n Ymgeisydd PhD yn ennill Gwobr Effaith y Brifysgol
Llongyfarchiadau i Anne Collis, myfyriwr PhD yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, sydd wedi ennill Gwobr yr Is-ganghellor am Effaith Ymchwil Ôl-radd.
Derbyniodd Anne o Fangor ei gwobr yn seremoni Gwobrau Effaith ac Arloesi Prifysgol Bangor ddydd Iau, 3 Rhagfyr. Dyma'r drydedd flwyddyn i'r gwobrau gael eu cynnal ac maent yn cydnabod gweithgarwch ymchwil a menter neilltuol ledled y sefydliad, sydd wedi llwyddo i fod o fantais i'r economi a'r gymdeithas yn ehangach.
Mae'r Gwobrau Effaith yn cydnabod y graddau y mae myfyrwyr doethurol wedi ymgysylltu â'r gymuned allanol, yn cynnwys y cyhoedd, ymarferwyr a busnesau, i gynhyrchu ymchwil sy'n cael gwir effaith y tu allan i'r brifysgol.
Dyma'r ymgeiswyr eraill oedd ar y rhestr fer:
- Sarobidy Rakotonarivo, Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth: categori 'Rhyngwladol'
- Catherine Sharp, Ysgol Seicoleg: categori 'Diwylliannol a Chymdeithasol'
- Matthias Wurz, Ysgol Cerddoriaeth: categori 'Diwylliannol a Chymdeithasol'
Mae Anne yn ail flwyddyn ei doethuriaeth ac mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar ymchwilio i lunio polisïau yng Nghymru mewn perthynas â chlywed barn dinasyddion a dulliau ymgynghori.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Rhagfyr 2015