Cyflwyniad i leoliadau gwaith a gwaith gwirfoddol yng Nghastell Penrhyn
Os ydych yn chwilio am ffyrdd creadigol i ddatblygu eich CV, os ydych eisiau gwneud gwaith gwirfoddol yn lleol neu os ydych eisiau dysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl newydd a gweithio yn un o'r safleoedd hanesyddol pwysicaf yng ngogledd Cymru, mae Castell Penrhyn yn cynnig cyfleoedd gwych.
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (Castell Penrhyn) sy'n gyfrifol am Gastell Penrhyn ac mae'n safle treftadaeth ddiwylliannol pwysig ar gyrion Bangor sy'n croesawu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. P'un a ydych yn hoffi bod yn yr awyr agored neu'n hoffi bod dan do, yn hoffi hanes neu eisiau dysgu am gadwraeth neu ymchwil archifol, mae rhywbeth i chi yng Nghastell Penrhyn.
Er mwyn dysgu mwy am sut gallwch gymryd rhan, mae Prifysgol Bangor yn cynnal gweithdy arbennig gydag aelodau o dîm Castell Penrhyn Nos Fawrth, 14 Mawrth, 5-6pm yn yr Ystafell Ymarfer Drama, Prif Adeilad y Celfyddydau
Croeso i bawb.
Am ragor o wybodaeth, gweler y ffeil PDF sydd ynghlwm neu cysylltwch â shaun.evans@bangor.ac.uk
Dogfennau cysylltiedig:
Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2017