Cylch Trafod Rhyngwladol ym Mangor
Ar 13-14 Tachwedd 2014 croesawyd nifer o gynrychiolwyr o Loegr, yr Alban ac Iwerddon sy’n ymddiddori mewn ystadau i gylch trafod ym Mhrifysgol Bangor. Yn eu plith yr oedd ymchwilwyr i hanes ystadau, archifwyr a rhai sy’n arbenigo ar gyflwyno’r dehongliadau hynny yng nghyd-destun y diwydiant ‘treftadaeth’.
Bwriad yr achlysur oedd cyflwyno a thrafod datblygiadau o fewn y meysydd academaidd a threftadaeth a hyrwyddo cyd-weithio rhwng gwahanol sefydliadau a gwledydd.
Agorwyd y cyfarfod gan yr Is-ganghellor, yr Athro John Hughes a gymerodd ran amlwg wrth sefydlu Canolfan Astudio Tai Hanesyddol ac Ystadau Tiriog Iwerddon ym Mhrifysgol Maynooth, Iwerddon, pan oedd yn Llywydd yno.
Bu’r cyfarfod yn llwyddiannus, a gwnaed nifer o benderfyniadau er mwyn hyrwyddo cydweithio. Penderfynwyd cynnal cylch trafod pellach yn Nundee ym Mawrth 2015 gan ddatblygu’r thema ‘Y Tirwedd Adloniadol’ (The Recreational Landscape).
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2015