Darlithydd yn ennill y Fedal Ddrama
Llongyfarchiadau i’n Dr Gareth Evans-Jones, sy'n ddarlithydd mewn Astudiaethau Crefyddol, am ennill y Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol AmGen eleni, a hynny am yr eildro. Gofynion y gystadleuaeth oedd drama ar gyfer y llwyfan neu’r sgrin a’i thestun yn agored. Lluniodd Gareth ddrama lwyfan o’r enw Cadi Ffan a Jan, sy’n archwilio themâu amrywiol, megis perthynas, cyfeillagrwch annisgwyl, clymau teuluol, hunaniaeth, a chymdeithas. Y beirniad oedd Gwennan Mair Jones, Cyfarwyddwr Ymwneud Creadigol Theatr Clwyd.
Meddai Gareth, ‘Roedd hi’n andros o sioc ennill am yr ail dro a dweud y gwir. Mi ges i’r syniad am y sgript nôl tua mis Medi 2020 ac roedd y cymeriadau wedi cydio yn fy nychymyg. Dwi’n ei chyfri’n fraint o’r mwyaf imi fod yn ffodus i ennill y Fedal eto a dwi’n ddiolchgar eithriadol am yr holl negeseuon caredig yn llongyfarch.’
Y gobaith yw y bydd y ddrama’n cael ei datblygu gyda chwmni theatr proffesiynol.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Awst 2021