Efrydiaeth PhD: Cymdeithas Sifil WISERD
Dyddiad cau: 01 Medi 2015
Swm cyllid: Ffioedd llawn y DU/UE, ynghyd â thâl
Hyd: 3 Blynedd
Gwahoddir ceisiadau am efrydiaeth PhD lawn-amser, dan nawdd WISERD, o fewn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor, yn dechrau ar 1 Hydref 2015 neu’n fuan ar ôl hynny. Mae gennym ddiddordeb mewn derbyn cynigion i wneud ymchwil mewn unrhyw un o'r meysydd canlynol:
- Effaith newid cymdeithasol ar gyfranogiad, gwirfoddoli neu fudiadau trydydd sector
- Mae datblygiad cymdeithas sifil mewn cymdeithasau sy'n cael genedl-adeiladu, llywodraeth ddatganoledig neu newid gwleidyddol
- Y defnydd o ddulliau ansoddol neu gymysg arloesol i archwilio unrhyw agwedd ar gymdeithas sifil ar draws amser a gofod.
Goruchwylwyr: Yr Athro Howard Davis a Dr Robin Mann.
Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2015
Cyllid
Cyllidir efrydiaeth yn hael gan yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas/ WISERD. Mae’n cynnwys ffioedd llawn y DU/UE, ynghyd â thâl doethurol yn cyfateb i Leiafswm Cenedlaethol Cynghorau Ymchwil y DU (£14,167 y flwyddyn ar gyfer 2014/15, i’w ddiweddaru bob blwyddyn).
Mae cyllid ychwanegol o £750 y flwyddyn ar gael ar ffurf grant Ymchwil.
Cymhwyster
Dylai ymgeiswyr fod â chefndir academaidd rhagorol ym maes gwyddorau cymdeithas, yn cynnwys gradd gyntaf ddosbarth I neu II(i) a hefyd gradd Meistr (gorau oll gradd Meistr a gydnabyddir gan ESRC nad gefndir cyfatebol mewn hyfforddiant ymchwil).
Mae grantiau llawn (ffioedd ynghyd â thâl cynnal) yn agored i Ddinasyddion y DU a myfyrwyr o’r UE a all ateb gofynion o ran preswyliad yn y DU. Er mwyn bod yn gymwys am y grant llawn, rhaid i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd fod ym Mhrydain ers o leiaf dair blynedd cyn dechrau’r cwrs y maent yn ceisio cyllid ar ei gyfer, yn cynnwys at ddibenion addysg lawn-amser. Mae dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd nad ydynt yn cyflawni’r gofynion preswylio uchod yn gymwys i gael grant ffioedd yn unig, ar yr amod iddynt fod yn breswylwyr yn yr Undeb Ewropeaidd am o leiaf 3 blynedd cyn dechrau eu rhaglen astudio arfaethedig.
Sut i Wneud Cais
Rhaid i ymgeiswyr lenwi a chyflwyno’r dogfennau isod erbyn y dyddiad cau, sef 01 Medi 2015:
Ffurflen gais – Llenwch y Ffurflen Gais ar-lein gan Brifysgol Bangor am Fynediad i Astudiaeth Ôl-radd (yma).
Cynnig ymchwil 1,000 o eiriau – Dylai ymgeiswyr gyflwyno Cynnig Ymchwil mewn 1,000 o eiriau mewn dogfen Word ar wahân. Dylai gynnwys datganiad o'r broblem ymchwil, dylunio a methodoleg, yn ogystal â chyfeiriadau at ymchwil sy'n bodoli eisoes ym maes cymdeithas sifil.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r drefn ymgeisio, cysylltwch â’r Swyddfa Dderbyn Ôl-radd:
E-bost: postgraduate@bangor.ac.uk
Ffôn: (01248) 383762
Rhagor o wybodaeth
Dyddiad cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2015