Grant Bach wedi’i ddyfarnu gan ESRC
Mae Dr. Simon Cottee wedi ennill grant bach gan ESRC i gynnal project ymchwil ar brofiadau cyn-Fwslemiaid sy’n byw yng ngwledydd Prydain, a’r sialensiau sy’n eu hwynebu. ‘The Apostates: A Qualitative Study of Ex-Muslims in Britain’ yw teitl y project, a bydd yn cychwyn ym Medi 2011. Bydd y project yn canolbwyntio ar brofiadau grŵp o gyn-Fwslimiaid ym Mhrydain, ac yn archwilio prosesau gadael Islam yng nghyswllt y gwrthgilwyr hyn, a’r canlyniadau a fu arnynt. Mae’r project yn derbyn grant bach gwerth £70k gan ESRC i’w gynnal.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Ebrill 2011