Gwobr Anrhydeddus i Marian Gwyn
Yn ddiweddar, cyflwynwyd i Dr Marian Gwyn, sy’n Gydymaith Ymchwil er Anrhydedd Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, wobr gan Weinidog Cyntaf Cymru am ei chyfraniad sylweddol i faes Hanes Du yng Nghymru. Mae Marian yn weithgar iawn yn ymchwilio amryw feysydd am Hanes Du yng Nghymru, gan gynnwys materion yn ymwneud â chaethwasiaeth, rolau tai ac ystadau ysblennydd, ac addysgu cynulleidfaoedd modern am elfennau hanesyddol pwysig.
Mewn ymateb i’r wobr, dywedodd Marian, ‘Doeddwn i wir ddim yn ei disgwyl’.
Mae ei gwaith ardderchog wedi’i gydnabod ymhellach gan iddi dderbyn grant o £100,000 gan Lywodraeth Cymru i gefnogi amgueddfeydd lleol gyda’u gwaith yn cyflwyno Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hil.
Rydym yn hynod ffodus i gael Cydymaith Ymchwil er Anrhydedd o’r fath yn rhan o’n Hysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Hydref 2021