Hanesydd o Fangor yn trafod Tony Benn
Mae Dr Andrew Edwards, Deon Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau ac Uwch Ddarlithydd mewn Hanes Modern ym Mangor, wedi cyhoeddi darn ar gyfer cylchgrawn BBC History ar ddylanwad y gwleidydd Llafur adain-chwith, Tony Benn, a fu farw ar Fawrth 14eg eleni.
Eglurodd Dr Edwards fod Benn yn enghraifft gynyddol brin o ‘wleidydd ag argyhoeddiad’ – nodwedd a edmygir gan fyfyrwyr Hanes Bangor – gyda’i safbwyntiau ar destunau megis hiliaeth a rhyfel ‘yn canu cloch gydag aelodau o’r cyhoedd oedd wedi’u dadrithio ac yn apathetig am wleidyddiaeth.’
Gellir gweld yr erthygl gyflaen ar wefan History Extra.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mawrth 2014