Israddedigion ar eu ffordd i Wlad Pwyl ar gyfer Rhaglenni astudio trwy Weithgareddau Gwirfoddol
Bydd chwech o israddedigion yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yn teithio i Łódź, Gwlad Pwyl, ym mis Tachwedd, ar gynllun a gyllidir gan yr UE.
Bydd Robyn Callacombe, Vicky Freeth, Nicole Hughes, Curtis Lennon, Siân Roberts a Callum Taylor ym mynd ar Raglen Ddwys Erasmus am 10 niwrnod ar thema ‘Gweithgareddau Gwirfoddol yn Ewrop’.
Bydd yr Athro Catherine Robinson, Pennaeth yr Ysgol, a Mr Hefin Gwilym, Darlithydd mewn Polisi Cymdeithasol, yn mynd gyda grŵp Bangor, a fydd yn astudio ochr yn ochr â myfyrwyr o’r Almaen, y Ffindir, Sbaen a Gwlad Pwyl, gan ennill gwybodaeth a medrau newydd ym maes gwirfoddoli. Yn benodol, bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar wirfoddoli yng nghyd-destun newid cymdeithasol yng Ngwlad Pwyl ers diwedd y gyfundrefn gomiwnyddol.
Bydd y myfyrwyr hefyd yn ymweld ag asiantaethau statudol a chyrff all-lywodraeth sy’n gweithio yn y maes cymdeithasol yn Łódź, yn cynnwys y rheiny sy’n gysylltiedig â digartrefedd.
Bu myfyrwyr Gwyddorau Cymdeithas yn cymryd rhan mewn rhaglen gyffelyb yn Nürnberg, yr Almaen, diolch i gyllid gan gynllun Erasmus yr Undeb Ewropeaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2013