Peter Lord: ‘Portreadu pobl Môn’
Mae'n bleser mawr gan Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, mewn partneriaeth â Chymdeithas Hynafiaethwyr a Naturiaethwyr Môn ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd gyhoeddi manylion darlith wadd arbennig a gynhelir yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Cynhelir y ddarlith am 12.15pm, Dydd Gwener, 11 Awst 2017, ym mhabell Prifysgol Bangor.
Bydd darlith Peter Lord yn canolbwyntio ar etifeddiaeth ddiwylliannol weledol gyfoethog Môn ac yn adfyfyrio ar y berthynas gain a geir rhwng delwedd, tirwedd a hunaniaeth.
Peter yw hanesydd celf mwyaf blaenllaw Cymru ac awdur y gyfres ‘Visual Culture of Wales’ y bu canmoliaeth fawr iddi, ac yn fwy diweddar The Tradition: A New History of Welsh Art (2016).
Canolfan ymchwil newydd yw Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru sydd wedi ei lleoli ym Mangor ac sy'n hyrwyddo ymchwil arloesol i hanes, diwylliant a thirwedd Cymru drwy lygaid ei hystadau a'r casgliadau y bu iddynt eu cynhyrchu dros y blynyddoedd.
Cafodd ystadau bonedd Môn ddylanwad enfawr ar nodweddion gweledol yr ynys, o'r bensaernïaeth a'r gweithiau celf a gysylltir â phlastai'r ynys, i edrychiad a chynlluniau coffa'r eglwysi, a siâp a chymeriad y dirwedd a'r cymunedau.
Mae gwahoddiad gwresog i'r cyhoedd sy'n ymweld â'r Eisteddfod i fynychu'r ddarlith a fydd yn cynnig taith weledol i brocio'r meddwl o amgylch diwylliant a threftadaeth Môn.
Traddodir y sgwrs hon yn Gymraeg a bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd i'r Saesneg.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â iswe@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2017