Prifysgol Bangor yn lansio Gwobr Cyflogadwyedd Bangor
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB) yn cael ei lansio i israddedigion ym mhob ysgol academaidd ar hyn o bryd. Bwriad y cynllun yw gwella rhagolygon gyrfa myfyrwyr Prifysgol Bangor drwy ddarparu rhaglen o ddatblygiad personol ac ymarferion rheoli gyrfa, yn ogystal â chydnabod llawer o weithgareddau all-gwricwlaidd a chyd-gwricwlaidd (e.e. profiadau gwaith, gwirfoddoli, aelodaeth o glybiau a chymdeithasau, dysgu ieithoedd newydd. etc). Bydd y GCB yn helpu myfyrwyr i adnabod natur drosglwyddadwy’r sgiliau y byddant yn eu datblygu wrth gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn, a dysgu sut i roi gwybod i ddarpar gyflogwyr amdanynt.
Mae’r Wobr yn agored i’r holl israddedigion. Mae cymryd rhan ynddi’n ddewisol ac mae’n cydredeg â’r rhaglen gradd (er ei bod yn gwbl ar wahân iddi). Rhoddir pwyntiau profiad (XP) am weithgareddau hyd at dair lefel benodol ac, ar ôl gorffen y cynllun, bydd myfyrwyr yn derbyn tystysgrif GCB a thrawsgrifiad, yn ychwanegol at y rhai sy’n ymwneud â’u gradd.
Am wybodaeth pellach, ewch i http://www.bangor.ac.uk/employability/index.php.cy
Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2012