Ysgol Hanes Bangor yng nghynhadledd NAASWCH yn Harvard
Teithiodd nifer o aelodau staff a myfyrwyr PhD o'r Ysgol Hanes, ynghyd â chydweithwyr o ysgolion eraill yn cynnwys Saesneg, Gwyddorau Cymdeithas ac Ieithoedd Modern i Brifysgol Harvard rhwng 20 a 22 Gorffennaf i gymryd rhan yng Nghynhadledd Hanes a Diwylliant Cymru Cymdeithas Gogledd America (NAASWCH) a gynhelir bob dwy flynedd. Cyflwynwyd amrywiaeth eang o bapurau yn cwmpasu ystod helaeth o ddisgyblaethau sydd gyda'i gilydd yn llunio'r maes anniysgyblaethol Astudiaethau Cymreig. Roedd y papurau a gyflwynwyd gan y dirprwyon o'r Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg yn amrywio o Gymru a Breninesiaeth Ganoloesol, profiad bywyd ar ystâd wledig yng Nghymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, y rhan anhygoel a chwaraewyd gan Brifysgol Bangor yn cadw'r Casgliad Celf Cenedlaethol a'r portread o ‘Rhyl Heulog' mewn papurau a thaflenni glan y môr. Rhoddodd ôl-raddedigion yr Ysgol gyflwyniadau ar swyddogaeth Undeb Cymru Fydd a rôl Roy Jenkins yn natblygiad y ddeddfwriaeth cysylltiadau hiliol. Cafwyd nifer o brif siaradwyr yn cynnwys y cyn Brif Weinidog Rhodri Morgan a'r actor Matthew Rhys, a arweiniodd at greu digwyddiad amrywiol iawn oedd yn ysgogiad deallusol.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Hydref 2016