projectau ymchwil
Projectau ymchwil
Hanes a Hanes Cymru Modern a Chyfoes
Hunaniaeth Cenedlaethol a Gwleidyddiaeth Sefydliadol: Datganoli yng Nghymru 1885-2001
Mae'r project hwn yn astudiaeth o ddylanwadau gwleidyddol a diwylliannol ar y broses o ddatganoli yng Nghymru.
Ymchwil i Hanes Teulu Penrhyn ac Ystad y Penrhyn
Fe ddaeth ail Farwn y Penrhyn yn enwog am ei rôl yn ystod cload allan y Penrhyn, 1900-1903, sef gwrthdaro diwydiannol a ddenodd sylw ledled y D.U. droad y ganrif ddiwethaf. Ar un adeg, roedd chwareli’r Barwn Penrhyn yn cyflenwi llechi i nifer o wledydd y gorllewin.
mwy.
Y Blaid Lafur a Gwleidyddiaeth Polisau Tai ym Manceinion a Salford 1945-1987
Mae’r astudiaeth achos yma’n edrych ar bolisi tai dwy ddinas lle mae’r Blaid Lafur yn gryf iawn. Mae’n ddwy ddinas yn gyfagos ond eto’n wahanol i’w gilydd, a nod yr astudiaeth yw edrych ar un o brif broblemau polisïau sosialaeth ddemocrataidd ar ôl y rhyfel.
Hanes a Hanes Cymru
Hunaniaeth Cenedlaethol a Gwleidyddiaeth Sefydliadol: Datganoli yng Nghymru 1885-2001
Mae'r project hwn yn astudiaeth o ddylanwadau gwleidyddol a diwylliannol ar y broses o ddatganoli yng Nghymru.
Ymchwil i Hanes Teulu Penrhyn ac Ystad y Penrhyn
Fe ddaeth ail Farwn y Penrhyn yn enwog am ei rôl yn ystod cload allan y Penrhyn, 1900-1903, sef gwrthdaro diwydiannol a ddenodd sylw ledled y D.U. droad y ganrif ddiwethaf. Ar un adeg, roedd chwareli’r Barwn Penrhyn yn cyflenwi llechi i nifer o wledydd y gorllewin.
mwy.
Hanes a Hanes Cymru Canoloesol
Cofnodion Trethu’r Llywodraeth Ganolog ar gyfer Cymru, 1291-1689
Project a gyllidir gan y Gronfa Ymchwil Gymdeithasol Ewropeaidd i ymchwilio i gofnodion y llywodraeth ganolog o drethu lleygwyr yng Nghymru 1291-1689. Mae gwybodaeth sy’n codi o’r ymchwil am y dogfennau a’u cyd-destun ar gael ar-lein yn awr ar www.nationalarchives.gov.uk/e179
Archeoleg
Casgliad o gerrig arysgrifenedig canoloesol cynnar a cherflunwaith carreg yng Nghymru
Mae dros 500 o gerrig arysgrifenedig canoloesol wedi eu darganfod yng Nghymru bellach ac maent yn allweddol bwysig ar gyfer ein dealltwriaeth o’r cyfnod rhwng diwedd y Rhufeiniaid a chychwyn y Normaniaid.
Mae’r project hwn sy’n ymchwilio i gytiau crwn yng Nghymru wedi ei ariannu gan y Bwrdd Astudiaethau Celtaidd.
Medionemeton – adeiladu amgueddfa o fywyd yr Oes Haearn yn Mitterkirchen, Awstria
Er bod amgueddfeydd awyr agored yn aml yn ail-greu ychydig o adeiladau neu fferm o gyfnod yr Oes Haearn ar gyfer y cyhoedd, nid oes adluniad cyflawn o bentref Oes Haearn wedi ei wneud o’r blaen. Dyma yn union mae’r project hwn yn ceisio ei wneud. Mae’r project yn cael ei reoli ar y cyd gyda J. Leskovar (Oberösterreichisches Landesmuseum Linz) a K. Löcker (Prifysgol Vienna)
Project Tirweddau Cynnar Ardudwy
Mae’r project hwn yn ymchwilio i olion aneddiadau ac olion amaethyddol cynhanesyddol yn Ardudwy, gogledd-orllewin Cymru. Mae’r rhaglen gwaith maes cyfredol yn cael ei ariannu gan Fwrdd Astudiaethau Celtaidd , Ymddiriedolaeth Elusennol Robert Kiln , Canolfan Ymchwil Cymru ac wedi ei gefnogi gan Brifysgol Bangor ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd.
Bryngaerau Bryniau Clwyd a Mynyddoedd Llantysilio
Mewn cydweithrediad â’r project ‘Y Grug a’r Caerau,’ mae’r Ysgol yn dechrau ar raglen ymchwil ar gaerau Bryniau Clwyd a Mynyddoedd Llantysilio. Byddem yn dechrau cloddiadau ym Moel y Gaer, Caer Llanbedr yn ystod Haf 2009, gydag arolwg pellach a gwaith cloddiad wedi ei dargedu wedi ei gynllunio ar gyfer y blynyddoedd sy’n dilyn. Mae’r cloddiadau cychwynnol wedi eu hariannu yn rhannol gan Gyhoeddiadau Prifysgol Cymru a’r Pwyllgor Ymchwil Cydweithredol gyda'r nod o archwilio ardal o dueddiad magnetig uchel ger mynedfa ogledd-orllewin Moel y Gaer, Llanbedr, ble mae’n bosib caewyd mynedfa gynharach ar ol iddo gael ei ddifrodi gan dân. Cliciwch yma i ddarllen stori newyddion berthnasol
Cymdeithasau Cynnar Celtaidd yng Ngogledd Cymru
Mae’r project ymchwil ar y cyd yma, wedi ei gyfarwyddo gan yr Athro Raimund Karl yn yr Ysgol a’r Athro John T. Koch yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Aberystwyth wedi ei ariannu gan Gyhoeddiadau Prifysgol Cymru a'r Pwyllgor Ymchwil Cydweithredol. Mae'r project hwn yn cyflogi Ymchwilydd, Dr Kate Waddington i gasglu GIS o aneddiadau yng Ngogledd Cymru o’r 2il filiwn BC i’r 2il filiwn AD. Defnyddir y data i ddadansoddi’r rhyngweithiad rhwng cymdeithasau bychain a’r ymddangosiad o gymdeithasau cymhleth yn ystod y cyfnod ffurfiannol o’r hyn sydd heddiw’n cael ei ystyried yn nodweddiadol o Gymru.