Defnyddio Systemau Gwasgedd a Chynhwysyddion Nwy yn Ddiogel
Systemau Gwasgedd
- Safon Polisi ar Ddefnyddio Systemau Gwasgedd yn Ddiogel (Rhagfyr 21) (yn disodli OHSU G12)
- Taflen Wybodaeth Systemau Pwysau
- Ffurflen PSR1 / yn cefnogi polisi . RHAID LLENWI'R FFURFLEN ar gyfer yr holl systemau gwasgedd newydd/segur (a/neu newidiadau i systemau presennol) a'u hanfon at y Swyddog Yswiriant a'r Iechyd a Diogelwch
- Trin a Defnyddio Silindrau Nwy Cywasgedig yn Ddiogel yn y Labordy - Taflen Wybodaeth
- Silindrau a Chynhwysyddion Nwy
- Codau lliw Silindrau Nwy Cywasgedig yr UE (BOC)
Yn y 'Rheoliadau Diogelwch Systemau Gwasgedd, nodir bod rhaid cadw cofnod o'r holl systemau gwasgedd a gedwir yn y brifysgol a threfnu bod rhywun cymwys yn eu profi a'u harchwilio'n rheolaidd. Swyddog Yswiriant y brifysgol sy'n gofalu am gofrestr y brifysgol o systemau gwasgedd ac yn trefnu iddynt gael eu harchwilio'n rheolaidd gan "beiriannydd cymwys".
Nodir enghreifftiau o systemau gwasgedd isod i gynorthwyo'r broses adnabod, gellir cael rhagor o gyngor a chymorth wrth nodi systemau gwasgedd gan y Iechyd a Diogelwch.
Mae Rheoliadau Diogelwch Systemau Gwasgedd yn berthnasol i'r canlynol:- Yr holl beiriannau ac offer sy'n cynnwys nwy cywasgedig (e.e. aer cywasgedig neu nwy hylifedig neu unrhyw hylif perthnasol) ar wasgedd sy'n fwy na 0.5bar (tua 7 psi) yn uwch na gwasgedd atmosfferig.
- Pob system ager gyda chynhwysydd gwasgedd (yn cynnwys boeleri ager a generaduron).
- Pob cynhwysydd gwasgedd.
- Yr holl bibellau a ddefnyddir i gyfleu nwy cywasgedig neu hylif perthnasol.
- Pob dyfais diogelu, hidlyddion a rheolyddion.
- Pob sosban frys (yn cynnwys sosbenni siaced stêm), retortâu a diheintyddion.
- Pob ffwrn aerglos.
- Pob cywasgwr aer (sefydlog a chludadwy).
- Pob dewar (er enghraifft: cynhwysydd storio nitrogen hylifol).
- Pob derbyniwr aer.
- Rhai cyfnewidwyr gwres a pheiriannau oereiddio penodol.
- Cynwysyddion profi gwasgedd.
- Rhai platiau poeth ager a phoptai ager.
- Rhai purwyr a sychwyr gwasgeddedig.
- Rhai peiriannau a phibellau prosesu penodol.
- Rhai golchwyr gwasgedd penodol a phob generadur ager.
Nodyn: rhaid labelu pob system wasgedd a nodi ei 'derfyn gweithio diogel' a, lle bo hynny'n briodol, dylid cynnal asesiad risg penodol.
Silindrau a chynwysyddion nwy
Yn ychwanegol at yr uchod, dylid rhoi gwybod i Swyddog Yswiriant y brifysgol am bob 'derbynydd gwasgedd cludadwy/cynhwysydd nwy cludadwy sy'n eiddo i'r brifysgol.
Mae'r eitemau hyn hefyd yn destun profion ac archwiliadau rheolaidd ond o dan set wahanol o reoliadau, 'Rheoliadau Cludo Nwyddau Peryglus (Dosbarthu, Pecynnu a Labelu) a Rheoliadau Derbynyddion Gwasgedd Cludadwy'.
Mae derbynyddion gwasgedd cludadwy yn cynnwys silindrau nwy fel poteli ocsigen, poteli nwy arbennig, poteli nwy anadlu, poteli nwy diffodd tân, poteli heliwm a phob potel storio nwy arall a all gynnwys gwasgedd sy'n uwch na 0.5 bar.
Os yw'r ysgol/adran yn berchen ar eitemau o'r fath, dylid ystyried cael gwared â'r cynwysyddion, a rhentu cynwysyddion yn eu lle, gan y byddai hyn yn lleddfu'r baich deddfwriaethol a monitro sydd ar yr ysgol/adran a'r brifysgol yn sylweddol.
Sylwer, cwmnïau dosbarthu fel BOC ac Air Products sy'n gyfrifol am brofi ac archwilio derbynyddion gwasgedd cludadwy sy'n eiddo iddynt ac nid oes rhaid angenrheidiol rhoi gwybod i'r Swyddog Yswiriant am y rhain.
Dylid asesu risg defnyddio a storio pob silindr yn unol â deddfwriaeth berthnasol arall fel y Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith a'r Rheoliadau Rheoli Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd.
Os oes gennych unrhyw amheuon nad yw eitem o offer wedi ei chynnwys yng nghwmpas y rheoliadau, dylech ei rhoi ar restr o eitemau i'w hasesu gan yr arolygydd yswiriant neu cysylltwch â'r Iechyd a Diogelwch i gael rhagor o gyngor.
Rhagor o Wybodaeth
- Trin a Defnyddio Silindrau Nwy Cywasgedig yn Ddiogel yn y Labordy - Taflen Wybodaeth
- Safe Use of Gas Cylinders (Taflen yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE))
- Codau lliw Silindrau Nwy Cywasgedig yr UE (BOC)
- Dyfeisiau a Systemau Diogelwch Allweddol