Gwaith ac Iechyd
- Cyfrinachedd a Recordiau Meddygol
- Absenoldeb Salwch
- Ffurflenni Absenoldeb Salwch
- Defnyddwyr Sgrinniau Arddangos
- Teithwyr Tramor
- Edrych ar ôl eich llais
- Effaith eich Iechyd ac eich Gallu i Weithio
- Osgoi Afiechydon Cyffredin a Gwellhad
- Llwybrau i Iechyd o Absenoldeb Salwch
- Mae canser yn dod â llawer o bryderon – helpu i sicrhau nad yw gwaith yn un
- Gwybodaeth am Iechyd
- Cadw Golwg ar Iechyd
- Cyflyrau Iechyd Cysylltiedig a’r Gwaith a all effeithio ar yr Aelodau Uchaf
- Peryglon Cemegol, Biolegol neu Radiolegol
- Haint Bacteria a Firws
- Canllawiau ar y menopos a’r gweithle
Teithwyr Tramor
Gall gweithio yn y Brifysgol olygu bod gofyn i chi weithio dramor er mwyn gwneud gwaith ymchwil neu oruchwylio myfyrwyr sy’n gwneud gwaith maes. Cyn i chi deithio mae’n hanfodol bwysig eich bod yn dilyn arweiniad y Coleg neu’r Adran o ran teithiau tramor e.e. trefniadau a chysylltiadau brys, yswiriant y Brifysgol ac asesiadau risg y daith. Os ydych yn dal yn ansicr ynglŷn â beth i’w wneud, cysylltwch â Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch am gyngor pellach. Gweler hefyd y Llawlyfr Teithio Staff a Myfyrwyr.
Cwblhewch y Ffurflen yswiriant a hysbysu ar-lein (hollol am ddim) cyn eich teithio, bob amser!
Dyma rai pethau y bydd angen i chi eu hystyried wrth deithio:
Brechiadau ac Imiwneiddio
- Sicrhewch eich bod yn cael y brechiadau cywir ar gyfer y wlad yr ydych yn ymweld â hi. Gall eich meddyg teulu roi cyngor i chi ynghylch hyn.
Hefyd:
- Day to Day Health Consideration
- Fit for Travel – NHS advice which lists vaccine etc information by country
- Travel Health Pro
- Travel Vaccinations – general NHS advice
- National Travel Health Network and Centre (NaTHNaC)
Y Daith
- Peidiwch â gwisgo dillad tynn ar deithiau pellter hir.
- Gwnewch ymarferion ymestyn a cheisiwch gerdded o gwmpas yr awyren yn rheolaidd.
- Yfwch ddigon o ddŵr ac osgowch yfed gormod o alcohol.
Yr Haul a Thymheredd Uchel
- Amddiffynnwch eich hun rhag pelydrau UV niweidiol drwy ddefnyddio eli haul gyda ffactor amddiffyn uchel. Rhowch yr eli arnoch chi eich hun eto bob awr neu ddwy a pheidiwch ag anghofio rhoi’r eli ar eich clustiau, gwefusau, rhaniad eich gwallt a blaen eich trwyn.
- Arhoswch yn y cysgod rhwng 11yb a 3yp pan mae’r pelydrau niweidiol ar eu gwaethaf.
- Gwisgwch het gantel lydan a dillad llac.
- Dewiswch sbectol haul gyda ffilteri UV i amddiffyn eich llygaid.
- Ceisiwch osgoi gweithgareddau egnïol yn ystod cyfnod poethaf y diwrnod.
- Yfwch ddigon o hylifau (rhai heb alcohol) i gydbwyso’r golled hylif sy’n digwydd wrth chwysu.
- Os datblygwch wres pigog (prickly heat), cymrwch gawod glaear a dabiwch y mannau llidus gydag eli ‘calamine’. Gwisgwch ddillad llac i leihau’r llid.
Eira, Rhew a Thymheredd Oer
- Defnyddiwch eli haul SPF15 neu uwch bob amser a gwisgwch sbectol haul neu gogls, hyd yn oed mewn tywydd cymylog.
Mae hypothermia’n gyflwr sy’n gallu lladd ac sy’n digwydd pan mae tymheredd eich corff yn gostwng o dan 35°C (95°F). Gall newid ymddygiad ddangos bod rhywun yn dioddef, felly byddwch yn wyliadwrus o hyn.
- Gwisgwch ddillad addas, wedi’u hinsiwleiddio’n dda, a haenau allanol i’ch amddiffyn rhag y gwynt a’r glaw. Mae het yn bwysig hefyd.
Mae ewinrhew yn digwydd pan mae eithafoedd eich corff (y bysedd, bochau, clustiau, trwyn a bysedd traed) yn oeri o dan y rhewbwynt. Os sylwir ar hyn yn gynnar, gellir ei drin yn hawdd. Os yw’n cael ei adael, gall arwain at golli meinwe.
- Os ydych yn amau bod gan rywun hypothermia neu ewinrhew, stopiwch ar unwaith. Gwnewch yn siŵr eu bod yn cael lapio amdanynt yn gynnes a hynny mewn lle diogel. Os na allwch ddod o hyd i gysgod, dylai pawb gasglu ynghyd i gynhesu’r sawl sy’n dioddef, ond bydd hyn yn cymryd amser. Os bydd y dioddefwr yn parhau i sgïo, yfed alcohol neu ysmygu sigaréts fydd hynny’n gwneud dim i’w helpu a gall wneud pethau’n waeth.
Salwch uchder
Os byddwch yn mynd i rywle uchel iawn, mae’n debyg y byddwch yn sylwi ar effeithiau aer teneuach – mae’n bosibl y byddwch yn teimlo’n flinedig iawn yn gyflym iawn. Er mwyn lliniaru’r effeithiau hyn, dechreuwch eich ymarfer ffitrwydd cyn-sgïo o leiaf chwe wythnos cyn i chi fynd ar eich gwyliau. Dechreuwch ar y llethrau is a gweithio eich ffordd i fyny i dir uwch.
Mae salwch mynydd aciwt (AMS) yn achosi pendro, cyfog, cur pen ofnadwy a newid eithafol ym mhersonoliaeth neu ymddygiad rhywun. Mae’n gyflwr sy’n bygwth bywyd. Os sylwch fod rhywun yn eich grŵp yn dangos y symptomau hyn, rhowch wybod i’r patrol sgïo neu i’r Corfflu Meddygol Mynydd, ac ewch i lawr y mynydd ar unwaith.
Pryfed
Brathiadau pryfed yw’r brathiadau mwyaf cyffredin o bell ffordd, a gallant drosglwyddo clefydau. Gall rhai ohonynt achosi adweithiau annymunol. Ewch at feddyg os yw brathiad pryfed yn achosi poen cyson, chwyddo neu gleisio.
- Holwch eich meddyg teulu os oes angen unrhyw feddyginiaeth cyn ymweld â’r wlad.
- Defnyddiwch hylif cadw pryfed draw sy’n cynnwys DEET. Mae bandiau arddwrn a ffêr sydd wedi’u trwytho gyda’r cemegyn hwn hefyd ar gael.
- Gwisgwch ddillad amddiffynnol a defnyddiwch rwydi mosgitos, yn enwedig mewn ardaloedd sydd â malaria.
- Peidiwch â rhoi cynnyrch rhy gryf (30% DEET) ar y croen.
- Peidiwch ag anadlu na llyncu hylif cadw pryfed draw, a gofalwch nad yw’n cyffwrdd â’ch llygaid.
- Dylai merched beichiog a rhai sy’n bwydo o’r fron ddefnyddio’r hylif cyn lleied â phosib. Ceisiwch gyngor penodol gan eich meddyg teulu.
- Gorchuddiwch eich coesau ar ôl machlud haul.
- Peidiwch â defnyddio persawr eillio, persawrau neu ddiaroglyddion persawrus – maen nhw’n denu’r pryfed.
Anifeiliaid
Yn gyffredinol, mae anifeiliaid yn dueddol o osgoi pobl, ond gallant ymosod, yn enwedig os ydyn nhw gyda’u rhai ifanc, a gall brathiadau achosi haint a all fod yn ddifrifol, ac weithiau’n angheuol. Gallant hefyd drosglwyddo’r gynddaredd (Rabies), haint firol ddifrifol ar y system nerfol. Mae’r gynddaredd yn endemig yn Ewrop a Gogledd America, yn ogystal ag yn y byd sy’n datblygu.
- Ni ddylid mwytho cŵn, cathod nac anifeiliaid domestig eraill mewn ardaloedd lle mae’r gynddaredd yn endemig. Dylid osgoi anifeiliaid gwyllt yn gyfan gwbl.
- Os cewch eich brathu gan anifail, golchwch y clwyf ar unwaith gan ddefnyddio sebon, neu rhowch ef dan ddŵr glân am o leiaf bum munud. Rhowch antiseptig os yn bosibl, a rhowch orchudd sych ar y clwyf .
- Ewch at feddyg ar unwaith. Os oes angen brechiad yn erbyn y gynddaredd arnoch, rhaid dechrau ar y cwrs ar unwaith.
- Nodwch fanylion y digwyddiad a disgrifiad o’r anifail. Os yw’n ddof, ceisiwch ddod o hyd i’w berchennog. Mae’n bwysig gwybod a yw’r anifail wedi cael brechiad yn erbyn y gynddaredd yn ddiweddar ai peidio, ac a ywwedi bod yn sâl yn y pythefnos diwethaf.
- Rhowch wybod am y digwyddiad i’r heddlu – bydd angen llenwi adroddiad ffurfiol at ddibenion yswiriant.
- Ymgynghorwch â’ch meddyg teulu ar ôl dychwelyd i’r DU.
Nadroedd
Mae marwolaethau o ganlyniad i frathiadau neidr yn gymharol brin – amcangyfrifir bod pum miliwn o frathiadau neidr yn digwydd ledled y byd bob blwyddyn, gan achosi tua 125,000 o farwolaethau. Mae’r nadroedd peryclaf yn cynnwys neidr frown Awstralia, gwiberod carped y Dwyrain Canol, nadroedd Russell a chobraod De Asia, a choral a neidr ruglo Gogledd America.
Achos y rhan fwyaf o frathiadau neidr yw aflonyddu ar y neidr ei hun – mae brathu yn ymateb amddiffynnol gan yr anifail. Mae nadroedd yn brathu pobl oherwydd bod ganddynt ofn, nid er mwyn lladd am fwyd – ychydig o wenwyn sydd mewn nifer o frathiadau. Fodd bynnag, gall gwenwyn gan neidr fach, anaeddfed fod yn gryfach na gwenwyn oedolyn.
Bwyta ac Yfed yn Ddiogel
- Golchwch eich dwylo cyn mynd i’r toiled, cyn trin bwyd a chyn bwyta.
- Defnyddiwch ddŵr potel a gwnewch yn siŵr nad yw’r sêl wedi torri.
- Berwch ddŵr neu hidlwch ef trwy ddefnyddio purydd dŵr.
- Peidiwch â rhoi rhew yn eich diod os nad ydych yn siwr o ble mae’r dŵr wedi dod.
- Peidiwch â bwyta bwyd sydd heb ei orchuddio a allai fod wedi bod yn agored i bryfed ac ati.
- Peidiwch â bwyta yn rhywle os ydych yn ddrwgdybus o’u glanweithdra e.e. gwerthwr stryd, ciosgau.
Cyngor Teithio a awdurdodiad
Mae gwybodaeth y Llywodraeth ar bob agwedd o deithio, gan gynnwys ardaloedd perygl posibl, cyfreithiau ac arferion tramor, a phwy i gysylltu â nhw os bydd problemau’n codi ar wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad (FCO).
Mae’n rhaid i bennaeth y Coleg/Gwasanaeth, neu hyd yn oed y Grwp Tasg Gweithredu Diogelwch mewn rhai achosion, awdurdodi unrhyw ymweliad â gwlad neu ranbarth a restrir yn ‘Gyfyngedig’ gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad.
Mesur diogelwch syml yw sganio eich pasbort a’i e-bostio atoch eich hun – gellwch gael mynediad ato o unrhyw le yn y byd wedyn.