Newyddion: Mehefin 2018
Gwelwyd bod rhwystrau sylweddol yn atal diagnosis prydlon o ddementia a mynediad at gefnogaeth ôl-ddiagnostig mewn pum gwlad yn Ewrop
Yn ôl adroddiad a gyflwynwyd heddiw yn Senedd Ewrop mae rhwystrau arwyddocaol sy'n atal diagnosis prydlon o’r clefyd Alzheimer wedi'u gweld ledled Ewrop. Cynhaliwyd yr astudiaeth, a ariennir gan Alzheimer Europe, mewn pum gwlad dan arweiniad yr Athro Bob Woods o Goleg Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor. Dyma oedd canfyddiadau'r astudiaeth:
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mehefin 2018
Dosbarth meistr ar gyfer myfyrwyr nyrsio anableddau dysgu
Croesawyd Mark Gray, sy’n nyrs anabledd dysgu ac yn ymgynghorydd ym maes anabledd a golwg i ddiwrnod ‘Cymuned Ymarfer Anabledd Dysgu’ yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mehefin 2018
Llwyddiant myfyrwyr nyrsio: Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg
Llongyfarchiadau i un ar ddeg o fyfyrwyr nyrsio am lwyddo i ennill Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg a ddyfarnwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mehefin 2018
Gwyddonwyr o Fangor yn teithio i Periw i ymchwilio i fywyd yn yr awyr denau
Mae mynyddoedd yn mynd â'n hanadl i ffwrdd yn llythrennol, nid yn unig oherwydd y tirweddau dramatig a diwylliannau nodedig, ond oherwydd fod pob anadliad a gymerwn yn uchel i fyny yn cynnwys llai o ocsigen (a elwir yn hypocsia). Mae hypocsia'n rhoi straen sylweddol ar yr ysgyfaint, y gwaed, y galon a'r pibelli gwaed wrth iddynt weithio gyda'i gilydd i ddiwallu angen y corff am ocsigen. Mae gan ymchwilwyr o'r Ysgol Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ( Grŵp Ymchwil Eithafion ) ym Mhrifysgol Bangor ddiddordeb arbennig mewn deall sut mae pobl yn ymaddasu i fywyd mewn awyr denau.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mehefin 2018
Ail gynhadledd PhD lwyddiannus Cymru gyfan i’r Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer
Yn ddiweddar cynhaliodd Bangor ail gynhadledd PhD Cymru gyfan i’r Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, gan groesawu dros 50 o ymchwilwyr PhD o bob rhan o Gymru. Datblygwyd y gynhadledd o ganlyniad i’r awydd i gynyddu ymchwil gydweithredol ym maes Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yng Nghymru, yn ogystal â Hyfforddiant Doethurol hynod lwyddiannus ESRC Cymru yn y Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mehefin 2018