Ail gynhadledd PhD lwyddiannus Cymru gyfan i’r Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer
Yr Athro Marc Jones (MMU – anerchiad agoriadol)Yn ddiweddar cynhaliodd Bangor ail gynhadledd PhD Cymru gyfan i’r Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, gan groesawu dros 50 o ymchwilwyr PhD o bob rhan o Gymru. Datblygwyd y gynhadledd o ganlyniad i’r awydd i gynyddu ymchwil gydweithredol ym maes Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yng Nghymru, yn ogystal â Hyfforddiant Doethurol hynod lwyddiannus ESRC Cymru yn y Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer. Dros ddau ddiwrnod bu’r gynhadledd yn gyfle i ôl-raddedigion gyfarfod, cymdeithasu a chyflwyno darganfyddiadau eu hymchwil.
Roedd y gynhadledd yn canolbwyntio’n fawr ar hyfforddiant ymchwil a datblygu myfyrwyr ôl-radd yn ymchwilwyr o ansawdd uchel. Aeth y cynadleddwyr i sesiynau hyfforddiant ymchwil ar bynciau fel y REF, pŵer ac amcangyfrif maint samplau, yn ogystal â chynnal sesiwn ‘holi’r panel’. Yno gallodd y cyfranogwyr ofyn unrhyw beth am ymchwil a hyfforddiant ymchwil, ac arweiniodd at drafod a dealltwriaeth ragorol.
Y cynadleddwyr yn mwynhau’r haulDywedodd Dr Ross Roberts (SSHES), trefnydd y gynhadledd bod “y ddau ddiwrnod diwethaf wedi bod yn wych. Hyfryd oedd gweld cymaint o ymchwilwyr ifanc o ansawdd uchel yn cyflwyno a thrafod eu hymchwil mewn awyrgylch gefnogol a chyfeillgar. Mae’r sesiynau hyfforddiant ymchwil hefyd wedi bod yn rhagorol, gyda myfyrwyr yn gwir werthfawrogi’r cyfleoedd i ddatblygu. Rydym i gyd yn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf nawr!”
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mehefin 2018