Opsiynau Dysgu
Yn y DU
Mae dysgu yn y Deyrnas Unedig yn rhoi cyfle i ddysgu wyneb yn wyneb gyda chyd-fyfyrwyr ac arbenigwyr y diwydiant yma yn y Ganolfan Rheolaeth, Ysgol Fusnes Fangor.
Dyma Ganolfan hyfforddi breswyl sydd gyda mynediad hawdd o feysydd awyr rhyngwladol a chysylltiadau rheilffordd y DU.
Mae holl raglenni sy'n seiliedig yn y DU yn cynnwys Rhaglen Gymdeithasol ddewisol.
Yn y Wlad
Cefnogaeth wyneb yn wyneb yn y wlad yn ogystal â chyrsiau pwrpasol a chymorth parhaol drwy hyfforddi a mentora ar ôl dysgu a phan mae newidiadau yn cael eu gwneud o fewn y sefydliad (yn amodol ar gytundeb).
Dysgu Cyfunol
Lleihau costia’u sefydliad ac amser i ffwrdd o'r swyddfa drwy siarad gydag ein tîm hyfforddi ynghyn a dysgu cyfunol a sut allai eich tîm fod o fodd (am fwy o wybodaeth cliciwch yma)
Rhaglenni Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Rhyngwladol
Mae'r Ganolfan Rheolaeth yn Ganolfan Hyfforddi breswyl yn un o brif Ysgolion Busnes y Deyrnas Unedig. Darpara hyfforddiant blaengar, proffesiynol a phwrpasol i'r farchnad fusnes fyd-eang, gan hybu cynaliadwyedd busnesau drwy feithrin rheolwyr sy'n ymwybodol o syniadau cyfredol, perthnasol a chyfoes yn y maes. Darperir cyrsiau ar bob lefel, o lefel aelodau tîm i lefel arweinwyr busnes a Phrif Swyddogion Gweithredol.
Cynigia'r Ganolfan amrediad eang o gymwysterau ôl-radd a chymwysterau proffesiynol a gydnabyddir gan y diwydiant. Bwriadwyd y rhain, a gynigir ym maes Arwain a Rheoli, Hyfforddi a Mentora, a Phrynu a Chyflenwi, ar gyfer rheolwyr canol ac uwch reolwyr, ac fe'u cyflwynir gan hwyluswyr rhyngwladol profiadol sydd phrofiad ymarferol eang mewn diwydiant.
Rydym yn falch o gynnig i gleientiaid becynnau datblygiad a hyfforddiant proffesiynol sydd wedi'u teilwra ar gyfer eu hanghenion, a gellir achredu ein holl raglenni.
Y Rhaglenni sydd ar gael
Dyma rai o'r rhaglenni sydd ar gael:
- Caffael
- Arwain a Rheoli
- Rheolwr Siartredig
- Cyfrifydda a Chyllid
- Annog a Mentora
- Rheoli ym maes Adnoddau Dynol
Dewch i gael ymgynghoriad a dadansoddiad o'ch anghenion hyfforddi'n rhad ac am ddim
Gallwn ddadansoddi'ch anghenion hyfforddi er mwyn llunio rhaglen o gyrsiau byr a seiliwyd ar y dewisiadau uchod.
I drefnu ymgynghoriad, cysylltwch â David Roberts, Cyfarwyddwr Rhaglenni Datblygiad Proffesiynol ac Arweinyddiaeth ar: