CIPS
Mwy o Wybodaeth am Lefelau CIPS
- CIPS Lefel 2 - Tystysgrif mewn Gweithrediadau Caffael a Chyflenw
- CIPS Lefel 3 - Tystysgrif Uwch mewn Gweithrediadau Caffael a Chyflenwi
- Lefel 4 - Diploma mewn Caffael a Chyflenwi
- Lefel 5 - Diploma Uwch mewn Caffael a Chyflenwi
- CIPS Lefel 6 - Diploma Proffesiynol mewn Caffael a Chyflenwi
Cysylltu â ni
- Ffôn: 01248 36 5981
- E-bostiwch Ni
Grwp LinkedIn CIPS
- Ymunwch yma
Cymhwyster proffesiynol Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi (CIPS)
Dod yn Broffesiynol mewn Caffael a Chyflenwi - a gwneud gwir wahaniaeth i linell waelod eich cwmni!
Mae amgylchedd heriol y byd busnes heddiw wedi cynyddu pwysigrwydd prynu a chyflenwi ac mae gan y proffesiwn rôl gynyddol bwysig. O ganlyniad, mae prynwyr a chyflenwyr proffesiynol yn gaffaeliad gwerthfawr i unrhyw gwmni, yn enwedig rhai gyda chymwysterau da ac sydd wedi cael hyfforddiant da.
Mae rhaglen y CIPS yn y Ganolfan Rheolaeth wedi ei llunio i ddatblygu safon uchel o sgil, gallu a chywirdeb ymysg pobl broffesiynol sy'n gweithio ym maes caffael. Mae'r rhaglen CIPS yn cynorthwyo unigolion a sefydliadau trwy ddysgu iddynt sut i gadw eu costau i lawr trwy reoli cyflenwadau'n effeithiol. Yr her yw cynyddu effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd trwy leihau costau wedi eu targedu heb amharu ar gynaladwyedd y cwmni.
Mae CIPS yn gorff dyfarnu sy'n cynnig amrywiaeth o gymwysterau proffesiynol cydnabyddedig i helpu unigolion i wneud yn fawr o'u gyrfa, os ydynt unai ar ddechrau eu gyrfa neu wedi bod yn y proffesiwn ers amser.
Mae'r Ganolfan Rheolaeth yn cynnig lefelau 2, 3, 4, 5 a 6 mewn prynu a chyflenwi. Mae David Roberts, Cyfarwyddwr y Rhaglen yn uwch arholwr i CIPS.
Ffioedd
Cysylltwch â ni i gadarnhau ffioedd
Dyddiadau
Cysylltwch â ni i gadarnhau dyddiadau
Cysylltu â ni
I gael gwybodaeth fanwl am y cymwysterau, gan gynnwys cynnwys y cwrs a chymhwyster, cysylltwch ag aelod o'r tîm hyfforddi i drafod eich gofynion penodol.