Proffiliau Myfyrwyr
Damien Varley – Bioleg Môr Gymhwysol
Mae Damien Varley, sy’n 20 oed ac o Leeds yn astudio BSc mewn Bioleg Môr Gymhwysol.
“Mae’r cwrs yn ddiddorol iawn. Rydym yn dyrannu pysgod mewn dosbarthiadau ymarferol, casglu samplau ar gychod bychan ac wrth gwrs yn mynd allan ar y môr yn yr enwog Prince Madog. Dychmygwch sut beth ydy o... ac mae o’n ddeg gwaith gwell, coeliwch chi fi.
“Ni fedraf feddwl am un peth yn benodol am Fangor, ond er mor hoff yr ydwyf o Leeds, pan fyddai yno rwy’n breuddwydio am ddod ’nôl i Fangor.”