Rhaglen Cefnogaeth i Raddedigion
Cyflogwyr DigwyddiadauA ydych chi wedi graddio, ond yn ansicr sut i fynd ati i chwilio am swydd? A ydych chi’n ansicr beth i'w wneud nesaf ar ôl graddio?
Lle bynnag yr ydych arni ar eich siwrnai, rydym yn ymrwymo'n llwyr i'ch helpu chi lwyddo mewn gyrfa ar ôl graddio a byddwn ar gael i chi am hyd at dair blynedd ar ôl i chi raddio.
Beth allwn ei gynnig
Arweiniad a Chefnogaeth |
|
Rydym yn cynnig apwyntiadau un-i-un (yn y cnawd neu ar-lein) yn ogystal â sesiwn grŵp galw heibio wythnosol i chi gael cwrdd â graddedigion eraill a rhannu eich profiadau. |
Gweithdai a Gweminarau |
|
Gallwch fynychu digwyddiadau (ar-lein ac yn y cnawd) i hybu eich sgiliau cyflogadwyedd neu gwrdd â chyflogwyr posibl. Cewch fynediad hefyd at y Llwybr Llwyddiant Graddedigion, yn ogystal â fideos sgiliau i’w gwylio ar-alw. Byddwn hefyd yn anfon cylchlythyr misol atoch i dynnu sylw at ddigwyddiadau allanol perthnasol a hyfforddiant. |
Cefnogaeth gyda cheisiadau am swyddi |
|
Gallwn helpu gyda chynlluniau gyrfa, chwilio am waith a mynediad at CareerSet a Grads First i'ch cefnogi gyda CV, llythyrau eglurhaol a pharatoi ar gyfer cyfweliadau rhithwir a chanolfannau asesu. |
Beth nesaf?
A ydych chi wedi graddio, ond yn ansicr sut i fynd ati i chwilio am swydd? A ydych chi’n ansicr beth i'w wneud nesaf ar ôl graddio?
Lle bynnag yr ydych arni ar eich siwrnai, rydym yn ymrwymo'n llwyr i'ch helpu chi lwyddo mewn gyrfa ar ôl graddio a byddwn ar gael i chi am hyd at dair blynedd ar ôl i chi raddio.
.
Bydd angen hefyd i chi weithredu eich cyfrif Target Connect graddedig YMA i drefnu apwyntiadau, digwyddiadau a chefnogaeth.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni yn cefnogigraddedigion@bangor.ac.uk.