Newyddion: Chwefror 2019
Newyddlenau
Prifysgol Bangor yn cynnig danteithion Masnach Deg
Mae Prifysgol Bangor yn dathlu Pythefnos Masnach Deg eto eleni. Yn wythfed ymysg prifysgolion y byd yn y Gynghrair Prifysgolion Gwyrdd oherwydd ei hymrwymiad i gynaliadwyedd, mae’r brifysgol yn awyddus bob amser i annog staff a myfyrwyr i feddwl am sut i wella’n barhaus ymrwymiad y sefydliad i gynaliadwyedd. Dyna pam fod amrywiaeth o weithgareddau’n cael eu hybu i annog staff a myfyrwyr i gymryd rhan mewn Pythefnos Masnach Deg o heddiw tan 10 Mawrth.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2019