Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae nifer y cymunedau a’r gweithleoedd dwyieithog ac amlieithog ar gynnydd, a chynllunio ieithyddol yn faes o bwysigrwydd cynyddol. O’r herwydd, ceir mwyfwy o alw am unigolion sydd â’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i lunio strategaethau a systemau effeithiol sy’n hyrwyddo cydraddoldeb ieithyddol. Wrth i ystyriaethau ieithyddol ddod yn flaenoriaeth ar gyfer llawer o feysydd - datblygu, cynllunio, addysg, iechyd, TG, marchnata - mae angen i staff mewn amrywiaeth eang o feysydd ddatblygu dealltwriaeth a sgiliau ym maes cynllunio ieithyddol. Ar ben hynny, mae cyhoeddi Mesur y Gymraeg (Cymru) (2011) wedi newid y fframwaith cyfreithiol ynghylch defnyddio'r Gymraeg ac felly’n golygu galw cynyddol fyth am weithlu dwyieithog, amryddawn.
Mae’r MA mewn Polisi a Chynllunio Ieithyddol yn archwilio, mewn modd arloesol a chynhwysfawr, faes sy’n dod yn fwyfwy pwysig yng Nghymru a’r tu hwnt. Mae’r rhaglen yn elwa o arbenigedd amrywiol ysgolion Prifysgol Bangor ym meysydd Gwyddorau Cymdeithas, Ieithyddiaeth, Y Gyfraith, Busnes, Y Gymraeg, a Gwyddorau Iechyd a fydd yn rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth o’r cwestiynau theoretig yng nghyswllt Cynllunio Iaith, yn ogystal â’r cwestiynau cymhwysol hollbwysig.