LLun o stryd siopa brysur.

Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY DDYSGU

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol

Pam Astudio Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol

Mae Polisi Cymdeithasol yn bwnc cyffrous i'w astudio oherwydd ei berthnasedd i gymdeithas - ei strwythurau a bywyd bob dydd. Mae polisïau cymdeithasol yn effeithio ar fywydau pawb mewn meysydd sy'n amrywio o addysg i iechyd. Mae'r ddarpariaeth les yn hanfodol bwysig i bob un ohonom boed gan wladwriaeth les weddilliol neu wladwriaeth les gyflawn yn ei holl agweddau mewn gwledydd mor wahanol â'r Deyrnas Unedig a Denmarc. Mae astudio Polisi Cymdeithasol yn rhoi cipolwg unigryw inni o'r ffordd yr eir i'r afael â'n hanghenion a'n hawliau mewn cymdeithas trwy archwilio damcaniaethau a pholisïau. Mae Polisi Cymdeithasol yn cynnig cyfle i ganolbwyntio ar feysydd sydd o ddiddordeb a phryder arbennig i chi. Yn y gorffennol bu'r myfyrwyr yn archwilio materion cyfredol fel ansicrwydd cymdeithasol a chynnydd y banciau bwyd. Mae hefyd yn rhoi sylfaen gadarn iawn I chi yn nulliau ymchwil gwyddorau cymdeithas sy'n eich galluogi chi i archwilio a deall ein byd mewn ffordd empirig sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol

Mae Polisi Cymdeithasol yn rhoi sgiliau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi I chi, megis sgiliau ysgrifennu, meddwl a chyflwyno. Yn ogystal, cewch eich arfogi â dulliau astudio ac ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol ac mae pob corff yn gwerthfawrogi'r rheiny.

 

Mae myfyrwyr polisi cymdeithasol yn dilyn llawer o yrfaoedd gan gynnwys y canlynol:

  • Newyddiaduraeth
  • Gwleidyddiaeth
  • Y Gwasanaeth Sifil
  • Llywodraeth leol
  • Addysgu
  • Ymchwil
  • Sefydliadau anllywodraethol
  • Tai.

Ein Hymchwil o fewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol

Ar hyn o bryd mae gennym amgylchedd ymchwil gweithgar iawn yn yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas sy'n canlyn nifer o ffrydiau meddwl rhyngddisgyblaethol ac sy'n cynnwys cymdeithasegwyr a throseddegwyr. Mae gennym ddiwylliant PhD gweithgar iawn yn yr Ysgol a'r myfyrwyr cyfredol yn ymchwilio i feysydd anghydraddoldeb lles a datblygiad cymdeithasol. Bu cyn-fyfyrwyr PhD yn archwilio banciau bwyd ac ansicrwydd cymdeithasol ymhlith pynciau eraill. Mae gennym hefyd ddiwylliant MA llewyrchus a'r myfyrwyr cofrestredig yn cynrychioli llawer o wledydd rhyngwladol, gan gynnwys Bangladesh, Pacistan a Saudi Arabia.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?