Cyfarfod ffrindiau newydd
Mae byw mewn neuadd yn rhoi cyfle i chi gyfarfod â phobl newydd, gwneud ffrindiau a theimlo'n rhan o gymuned glos. Os ydych yn dewis byw yn Neuadd John Morris-Jones byddwch yn cyd-fyw gyda myfyrwyr eraill sy'n siarad Cymraeg neu'n dysgu'r iaith.
Sicrwydd o lety mewn neuaddau o safon
Cafodd ein neuaddau eu henwi'r gorau ym Mhrydain yng Ngwobrau Myfyrwyr What Uni 2018 . Rydym yn sicrhau llety i holl israddedigion, llawn amser y flwyddyn gyntaf sy'n gwneud cais o fewn yr adegau priodol ac yn nodi Bangor fel eu Dewis Cadarn.
Rhywbeth i bawb
Mae gennym amrywiaeth o lety yn cynnwys neuaddau safonol gydag ystafelloedd ymolchi a rennir, ystafelloedd en-suite, stiwdios a thai tref.
- Mae ein llety oll yn hunanarlwyo
- Mae staff diogelwch ar y safle 24 awr y dydd ac mae'r cymorth ar gael yn cynnwys Uwch Warden a thîm mawr o Fentoriaid.
- Mae mynediad i'r rhyngrwyd, gwres, trydan a dŵr yn gynwysedig yn y pris
Pob neuadd o fewn pellter cerdded i'r Brifysgol a'r ddinas
Mae gennym dri safle llety; Pentrefi'r Ffriddoedd a'r Santes Fair a Neuadd Garth, neuadd i fyfyrwyr ôl-raddedig a leolir ar Ffordd y Coleg. Mae ein llety i gyd o fewn pellter cerdded o brif adeiladau'r Brifysgol a chanol y ddinas.
Pentref Ffriddoedd yw'r safle fwyaf, gyda dros 2,000 o ystafelloedd ar gael yno. Yno hefyd lleolir Bar Uno a chanolfan chwaraeon y Brifysgol, Canolfan Brailsford.
Mae Pentref y Santes Fair yn ddatblygiad newydd o 600 o ystafelloedd, gydag amrywiaeth o lety yn cynnwys stiwdios, fflatiau a thai tref. Mae yno hefyd gaffi, siop golchdy, ystafelloedd cyffredin a chyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd.
Aelodaeth o'r gampfa a Bywyd Campws yn gynwysedig
Mae myfyrwyr sy'n byw yn ein neuaddau preswyl yn Ffriddoedd, y Santes Fair a Garth yn derbyn aelodaeth o'r gampfa a Bywyd Campws. Gall fyfyrwyr sy'n byw yn unrhyw neuadd ddefnyddio cyfleusterau Canolfan Brailsford, a gall y rhai sy'n byw ym Mhentref y Santes Fair hefyd gael mynedfa at yr ystafell ffitrwydd sydd yn y pentref.
Mae Bywyd Campws yn rhaglen o ddigwyddiadau sy'n rhedeg drwy'r flwyddyn. Mae digwyddiadau'n cynnwys nosweithiau ffilm, nosweithiau cwis a theithiau yn yr ardal leol i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored.
Ein neuaddau...
Barn ein myfyrwyr...
Mae byw mewn neuadd wedi fy ngwneud yn fwy annibynnol wrth goginio ac ati. Rwyf hefyd yn byw mewn neuadd Gymraeg sydd yn brofiad arbennig iawn gan fod pawb fel un teulu mawr.
Gwen Alaw Williams
Cymraeg