Ein Pentrefi Llety
Opsiynau Llety
Edrychwch ar wybodaeth am ein pentrefi llety a gweld manylion neuaddau unigol.
En-suite yn Ffriddoedd
Mae'r neuaddau isod i gyd o fath tebyg, gydag ystafelloedd ymolchi preifat a cheginau wedi eu rhannu rhwng 8 o fyfyrwyr. Mae rhai ystafelloedd mwy ar gael am gost ychwanegol.
Mae'r neuaddau isod i gyd o fath tebyg, gydag ystafelloedd ymolchi preifat a cheginau wedi eu rhannu rhwng 8 o fyfyrwyr.
Ystafelloedd Safonol
Mae’r neuaddau yma'n cynnig ystafelloedd safonol, gydag ystafelloedd ymolchi a cheginau i'w rhannu.
Ystafelloedd i Ôl-raddedigion
Dyma restr o neuaddau sydd yn cynnwys ystafelloedd Ôl-raddedig, yn cynnwys ystafelloedd safonol, en-suite, fflatiau stiwdio a thai tref.
- Ystafelloedd en-suite Tudno (Santes Fair)
- Tai Tref Santes Fair
- Stiwdios Santes Fair
- Crafnant (Ffriddoedd)
- Cefn y Coed (Ffriddoedd)
- Garth (Ffordd y Coleg)
Myfyrwyr gydag anghenion ychwanegol
Gellir gwneud trefniadau lle bo’n bosibl i ddarparu ar gyfer ceisiadau unigol gan fyfyrwyr sy’n gysylltiedig ag anabledd.
Os oes gennych chi ofynion arbennig, a fyddech cystal â thrafod y rhain gyda’r Cynghorwr Anableddau ar 01248 382032 neu e-bostiwch gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk. Bydd y cynghorwr yn gallu trafod unrhyw anghenion am gymorth a fydd gennych, yn ogystal â’ch cymhwyster ar gyfer cyllid ychwanegol.
Cewch weld ystafell sydd wedi ei haddasu yma.
En-suite yn Santes Fair
Mae'r neuaddau canlynol yn cynnig ystafelloedd ymolchi preifat. Rhennig ceginau mewn fflatiau en-suite rhwng 5 i 8 o bobl.
Stiwdios
Mae Stiwdio yn cynnwys cegin fach breifat ac ystafell ymolchi preifat.
- Cemlyn (Santes Fair)
- Cybi (Santes Fair)
- Penmon (Santes Fair)
- Tudno (Santes Fair)
- Stiwdios Santes Fair
Tai Tref
Rhennig ceginau yn y Tai Tref rhwng 8-12 o bobl a rhennig ystafelloedd ymolchi rhwng 2.